‘Ffrwydrad’ o ddrama newydd am fywydau pobl ifanc dall ac anabl
Bydd cynulleidfaoedd yn dychryn, chwerthin ac yn cael eu cymell i drafod bywydau pobl ifanc dall ac anabl yn sgil drama newydd.
Ysgrifennwyd Byth Bythoedd Amen gan Mared Jarman.
Mae Mared ei hun yn byw gyda cyflwr nam golwg Stargardt.
Hi sy’n actio’r brif ran, Lottie yn y ddrama a ddisgrifiwyd fel un “ddinesig, doniol a thywyll.”
Y prif gymeriad arall yw Bennie sef yr actor a’r cyflwynydd teledu Paul Davies.
Lleisiau a straeon pobl anabl sydd wrth galon y cynhyrchiad.
Bydd capsiynau dwyieithog ar gael ym mhob perfformiad, yn ogystal â sain ddisgrifiad trwy gyfrwng y Gymraeg dan ofal Eilir Gwyn.
Gellir hefyd ddarparu synopsis Saesneg o flaen llaw.
Bydd Eilir hefyd yn arwain teithiau cyffwrdd cyn pob perfformiad, er mwyn rhoi cyfle i fynychwyr dall a’r rheiny sydd â nam golwg allu archwilio’r set, props a gwisgoedd.
Bydd taith gyffwrdd cyn pob sioe am 18:30.
Cysylltwch â'r ganolfan berthnasol i gadw lle ar y daith gyffwrdd.
Bydd y gerddordiaeth gan Eadyth Crawford.
Dywedodd cyfarwyddwr artistig cwmni Theatr Cymru, Steffan Donnelly: “Dyma ffrwydrad o ddrama newydd gan Mared Jarman, sy’n herio cymdeithas tra’n adrodd stori bwerus a thyner am gariad, galar a sut mae rhywun yn ffindio’i ffordd.
“Mae ‘na chwerthin, tristwch a gobaith wrth i’n cymeriadau grwydro strydoedd Caerdydd.
“Mae Byth Bythoedd Amen yn garreg filltir yn y theatr yng Nghymru fel drama o bersbectif anabl gyda chast anabl yn dathlu’r gymuned honno a brwydro ableddiaeth (‘ableism’) ein cymdeithas.”
Bydd y sioe yn teithio o amgylch Cymru gan ymweld â Rhosllannerchrugog, Bangor a Chaernarfon.
Canllaw oed Byth Bythoedd Amen yw 16+
Mae rhybudd fod y ddrama yn cynnwys iaith gref, yn cynnwys rhegi ac iaith sarhaus, disgrifiadau o drais rhywiol, camddefnyddio alcohol a chyffuriau, marwolaeth, a hunanladdiad.
Dyddiadau:
Chwefror 5, Y Stiwt, Rhosllannerchrugog. 19:30
Chwefror 8, Pontio, Bangor. 19.30
Chwefror 11, Galeri, Caernarfon. 19:30
- ‘Byth Bythoedd Amen’ yn arwydd pinc gyda’r actorion yn yfed diod las oi flaen
- Dyn gyda gwên ar ei wyneb a gwallt pinc
- actores yn sefyll yng nghanol y llun yn gwisgo siaced gyda 'sequenced' a cefndir gliter
- dau actor yn wynebu ei gilydd ac yn edrych i fewn ei llygaid gyda chefndir gliter
- dyn actor ar ei gliniau a'i ddwylo a actores tu ol yn ei dilyn