Gig elusennol Phill Jones yn llwyddiant mawr
Roedd gig elusennol gyda’r canwr Phill Jones i godi arian i Gymdeithas y Deillion yn llwyddiant mawr.
Er gwaetha’r tywydd glawog a stormus nos Wener (14.11.25), roedd bar @siopjacydo yng Nghaernarfon yn llawn o deulu a chefnogwyr i wrando ar Phill a’i fand gyda Gwenno Fôn ac Elidyr Glyn yn ymuno fel gwesteion arbennig.
Cafodd y noson ei ffilmio gan gwmni teledu @tinopolis a bydd rhaglen arbennig am fywyd Phill yn cael ei darlledu dros y Nadolig ar S4C.
Cafodd Phill, 22, o Gaernarfon, ei eni gyda nam golwg. Ers y dechrau, cafodd gymorth gan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ym Mangor.
Aeth ati i drefnu’r gig arbennig yma er mwyn diolch i’r Gymdeithas.
Meddai Phill: “Swn i ddim wedi gofyn am noson well.”
Oherwydd ei nam golwg, dywedodd Phill nad ydi pob dim yn ei fywyd “yn hawdd” ond “dydio ddim yn rhwystro fi chwaith.”
Mae Phill yn gweithio fel derbynydd i gyfreithwyr Pritchard Jones Lane LLP yng Nghaernarfon.
Mae o hefyd yn gigio yn rheolaidd mewn tafarndai lleol.
Er fod mynediad am ddim i’r gig, codwyd £496.80 i’r Gymdeithas ar y noson drwy gyfraniadau a raffl llwyddiannus iawn.
Hoffai Phill ddiolch i bawb am eu cefnogaeth gan gynnwys ei deulu, ffrindiau, busnesau ac unigolion lleol - Jac y Do, Bwncath, Blêds22, Tân, Palas Print, Gemwaith, Lisa Eurgain Taylor, Sioned Glyn, Na-Nog a Swig Smwddis am gyfrannu gwobrau i’r raffl.
Dywedodd prif weithredwr Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, Steven Thomas, fod y Gymdeithas yn ddiolchgar iawn i Phill a’i deulu am drefnu’r noson ac i bawb am gyfrannu mor hael.
- Gwirfoddolwyr Cymdeithas y Deillion gyda Phill Jones yn Jac y Do
- Gwirfoddolwyr Cymdeithas y Deillion yn helpu tu ol i bar Jac y Do
- Pobl yn mwynhau gwylio gig Phill Jones yn Jac y Do
- Golygfa agos o Phill Jones yn canu yn Jac y Do
- Phill Jones yn canu gyda Gwenno Fôn yn Jac y Do
- Pobl yn gwylio Phill Jones yn canu yn Jac y Do
- Poster Cymdeithas y Deillion yn dweud diolch i pobl sydd wedi rhoi cyfraniad i'r elusen
- Poster gig Phill Jones yn Jac y Do yn Llandudno - 14eg o Dachwedd am 6:00yh








