A- A A+

English

Golygfeydd, castell a geifr - taith ddiddorol yn Llanberis

Daeth 21 o gerddwyr ar daith ddiweddaraf ein clwb cerdded o amgylch pentref Llanberis, ynghanol ysblander mynyddoedd Eryri.

Eurwyn Thomas, un o wirfoddolwyr y clwb, oedd yn arwain y daith gerdded o amgylch ei bentref genedigol.

Roedd yn gylchdaith o tua 4 milltir ar hyd llwybrau tarmac yn bennaf.

Fe gychwynnon ni ein taith gerdded ar ôl ymgynnull yn y maes parcio ger y cerflun 'Llafn y Cewri' am 11:00yb.

Gan gerdded yn rhannol o amgylch Llyn Padarn, fe wnaethon ni anelu ein ffordd tuag at Amgueddfa Lechi Cymru a Rheilffordd Llyn Padarn lle'r oedd yna fyrddau picnic a thoiledau.

Mae’r Amgueddfa boblogaidd hon newydd gau ei drysau, fodd bynnag, tra bod gwaith adnewyddu yn cael ei gynnal dros y ddwy flynedd nesaf.

Dyma le gawsom ni ein hegwyl ginio a chlywed y trên bach yn pasio ar hyd y rheilffordd gerllaw.

Ar ôl cinio fe wnaethon ni barhau â’n taith gerdded heibio glannau Llyn Padarn ac i fynd at hen Ysbyty Chwarel Dinorwig oedd wedi cau.

Fe gawsom ni gyd ein synnu ar ôl gweld ac arogli cymaint o eifr gwyllt oedd wedi dod lawr o’r mynyddoedd i fwyta deiliach a’r gwyrddni o’n cwmpas.

Er gwaethaf eu cyrn bygythiol ni chafodd neb eu hanafu ganddynt.

Yna fe wnaethon ni anelu at Gastell Dolbadarn sy'n adeilad Gradd 1 rhestredig ac yn gastell Cymreig a adeiladwyd ar ddechrau’r 13eg ganrif gan Llywelyn Fawr.

Fe wnaethon ni gwblhau ein taith gerdded yn y maes parcio lle cychwynasom.

Nodyn atgoffa: Bydd cinio Nadolig a pharti blynyddol Clwb cerdded Eryri walking club yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi Bethesda ddydd Mercher, Rhagfyr 4.

Fe wnawn rannu’r fwydlen a rhagor o fanylion maes o law.