Basged (0) Mewngofnodi

GWRANDO Nei Di!

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru a Llyfrgelloedd Gwynedd yn cynnal nifer o ddyddiau arbennig i hybu eu llyfrau llafar.

Mae’r Gymdeithas yn recordio lleisiau enwogion fel Prif Weinidog Cymru, Rhun ap Iorwerth, yn darllen llyfrau llafar ar gyfer y deillion a phawb sy’n ei chael hi’n anodd darllen print.

Bob blwyddyn mae’r Gymdeithas yn cynhyrchu 12 o lyfrau llafar Cymraeg i oedolion a 12 o lyfrau plant.

Mae’r llyfaru yna ar gael o’r llyfrgelloedd neu i’w prynu gan y Gymdeithas fel rhan o’i gwasanaeth GWRANDO.

Bydd gan y Gymdeithas hefyd swyddog profiadol yn y llyfrgelloedd yn ystod y dyddiau arbennig i arddangos ac egluro’r ystod o gymorth ac offer arloesol sydd ar gael i bobl sy’n byw gyda nam golwg.

Mae’n rhan o nifer o wasanaethau lleol gwerthfawr a ddarperir gan Gymdeithas.

Bydd hefyd cyfle i fwynhau perfformiad cerddorol byw gan Phill Jones, y canwr‑gyfansoddwr talentog o Gaernarfon sy’n defnyddio ei gerddoriaeth i ysbrydoli eraill.

Mae croeso cynnes i bawb – peidiwch â cholli’r cyfle i gysylltu, dysgu ac archwilio beth sydd ar gael i chi neu eich cymuned.

Bydd y digwyddiad cyntaf yn llyfrgell Porthmadog, ddydd Llun, Gorffennaf 6 rhwng 10-1yp a’r ail yn llyfrgell Caernarfon, rhwng 10-1yp ddydd Llun, Gorffennaf 13, 2026.

Bwriedir trefnu rhagor o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol.

Mwy o wybodaeth: Hywel Trewyn, Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru 01248 353604