Gwybodaeth am y ddwy daith gerdded nesaf – Gorffennaf 16 ac Awst 13
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ein dwy daith gerdded nesaf!
Bydd y rhan gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher, Gorffennaf 16, ac yn ein harwain o Gapel Curig i Bwthyn Ogwen.
Bydd yr ail ran o’r daith yn dilyn ddydd Mercher, Awst 13, pan fyddwn yn cerdded o Bwthyn Ogwen i Bethesda.
Sylwer: Cynhelir yr ail daith ar ail ddydd Mercher y mis – nid y trydydd, fel y bu’n arfer.
Ar ein taith gyntaf ym mis Gorffennaf, byddwn yn dychwelyd i sir Conwy ac yn ail-droedio'r llwybr y cerddasom ychydig wythnosau ar ôl dod allan o'r cyfyngiadau Covid. Awgrymwyd y daith hon gan ei bod wedi mwynhau’n fawr gan bawb a fu’n rhan ohoni.
Bydd y daith hon yn dilyn Adran 13 o’r Llwybr Llechi, o Gapel Curig i Bwthyn Ogwen – pellter ychydig dros 5 milltir. Mae’r llwybr yn dilyn Afon Llugwy ac yn rhedeg yn gyfochrog â’r A5, gan ein tywys trwy Nant y Benglog, dyffryn cul a phrydferth rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen.
Cymerwn seibiant am ginio yn Gwern Gof Isaf, fferm sy’n cynnig byrddau picnig a thoiledau. Diolch o galon i’r ffermwr am ganiatáu inni ddefnyddio’r cyfleusterau hyn. Cofiwch ddod a bwyd a diod gyda chi.
Nodwch fod y llwybr yn bennaf ar dir gwledig, gyda rhai arwynebau garw, tra bod y cilometr olaf ar ffordd darmac. Yn dibynnu ar y tywydd blaenorol, gall rhai rhannau fod yn fwdlyd – argymhellir esgidiau cerdded cadarn.
Toiledau ar gael ar ddechrau’r daith, yn Gwern Gof Isaf, ac yn Bwthyn Ogwen ar ddiwedd y daith.
Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn trefnu bws yn gadael swyddfa’r gymdeithas am 10:30yb, ac yn ein casglu o Bwthyn Ogwen am 3:30yp, gan gyrraedd Bangor tua 4:00yp.
Bydd y bws hefyd yn codi cerddwyr ym Methesda, gyferbyn â’r cae pêl-droed, am 10:45yb. Mae parcio am ddim ar gael i berchnogion Bathodyn Glas ym maes parcio’r cae pêl-droed.
Cofiwch roi gwybod i Bethan Sage Williams yn swyddfa’r Gymdeithas os ydych yn bwriadu ymuno â ni erbyn dydd Gwener, Gorffennaf 11 – bydd hyn yn ein helpu i drefnu’r cludiant angenrheidiol. Gallwch gysylltu ar 01248 353604 neu drwy e-bost bethan@nwsb.org.uk.
Rydym yn edrych ymlaen yn arw at rannu’r daith gyda chi eto’r mis hwn.