Haf Thomas yn dweud wrth Shân Cothi sut y cododd £5,000 i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru
Mae Haf Thomas wedi codi dros £5,000 i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru trwy gasglu stampiau.
Mae’r arian wedi cael ei ddefnyddio i dalu am ddarparu cyfrifiaduron a meddalwedd arbenigol i alluogi plant sydd wedi colli’u golwg i ddysgu a dod yn fwy annibynnol.
Mae Haf hi’n parhau i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd drwy gasglu stampiau o bob math sydd wedyn yn cael eu didoli a’u gwerthu fel elw i’r Gymdeithas.
Dros y blynyddoedd mae Haf, o Llanrug, Gwynedd wedi hel dros £60,000 i elusennau fel Tŷ Gobaith, Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd ac Ambiwlans Awyr Cymru.
Ganwyd Haf, 54, yn 1971 gyda syndrome Down’s.
Ond ni wnaeth hynny ei dal yn ôl o gwbl – ac mae wedi mwynhau bywyd llawn gan gynnwys gweithio i Gyngor Gwynedd am 29 o flynyddoedd cyn ymddeol.
Cyhoeddwyd cofiant Haf - ‘O na fyddai’n Haf o hyd!’ – flwyddyn yn ôl.
Nawr mae ei hanes hefyd ar gael fel fersiwn llyfr llafar fel bod deillion a phobl gyda nam golwg yn medru ei fwynhau.
Chwaer Haf, Ffion Orwig, sy’n lleisio’r llyfr llafar.
Yn ddiweddar cafodd Haf a Ffion eu holi gan Shân Cothi ar ei rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.

