A- A A+

English

Hysbysiad ar gyfer Taith Gerdded Cylchol o Rhyd Ddu i Llyn Y Gader, Dydd Mercher, Hydref 15, 2025

Mae hon yn daith ychydig yn fwy heriol na’n teithiau dros y misoedd diwethaf.

Mae'r llwybr yn 6.5km (4 milltir) ar arwyneb gadarn yn bennaf.

Bydd y daith yn dechrau yn maes parcio gorsaf Rhyd-Ddu (LL54 6TH) lle mae toiledau.

Ar ddechrau’r daith byddwn yn cerdded o’r ffordd yn Rhyd-Ddu ac i fyny tuag at gyfeiriad Yr Wyddfa.

Ar ôl cyrraedd lleoliad o ychydig gilometrau i fyny’r llwybr, byddwn yn stopio i gael cinio yn yr awyr iach.

Yna byddwn yn dechrau ein disgynfa yn ôl tuag at y brif ffordd yr A4085 rhwng Waunfawr a Beddgelert.

Byddwn yn croesi’r ffordd yn ogystal â llinell Rheilffordd Eryri, gan anelu i gyrraedd llwybr Lôn Gwyrfai a fydd yn ein harwain o amgylch Llyn Y Gader a’i leoliad dymunol.

Byddwn wedyn yn dychwelyd i'r maes parcio lle cychwynodd y daith.

Argymhellir esgidiau addas yn ogystal â rhywfaint o ddillad cynnes gan y byddwn yn codi i uchder o 300m (1,000 troedfedd).

Peidiwch hefyd â anghofio dod â'ch cinio a diod poeth efallai.

Yn edrych ymlaen at gael eich cwmni eto’r mis hwn, Mark

caeau gyda choed a mynyddoedd
llyn gyda mynnyddoedd yn y cefndir