A- A A+

English

Hysbysiad o'n taith gerdded nesaf Dydd Mercher, Mehefin 19, 2024

Clwb Cerdded Eryri Walking Club

Dydd Mercher 19 Mehefin 2024

Ty'n-y-Maes — Tregarth

Ein taith y mis yma fydd Ty’n-y-Maes i Dregarth, taith oedden ni wedi’i chynllunio ar gyfer mis Chwefror ond gafodd ei chanslo oherwydd tywydd garw.

Byddwn yn gadael Bangor am 10:45, teithio i'n man cychwyn yn Ty'n-y-Maes sydd dwy filltir i fyny'r A5 o Fethesda i gyfeiriad Llyn Ogwen.

Byddwn yn cychwyn y daith tua 11:15 gan gerdded ar hyd hen ffordd Nant Ffrancon cyn ymuno â Lôn Las Ogwen (llwybr beicio).

O fewn yr awr, dylem gyrraedd Zipworld lle byddwn yn cael ein egwyl ginio. Mae caffi a thoiledau yma ar gyfer y rhai sydd angen.

Ar ôl cinio, byddwn yn certdded ar hyd Lôn Las Ogwen i gyfeiriad Tregarth gan gyrraedd yr hen orsaf reilffordd mewn pryd ar gyfer ein lifft yn ôl i Fangor.

Mae’r daith yn tua 5 milltir ar wyneb gwastad yn bennaf ar wahân i ychydig o ddarnau serth byr iawn.

Bydd ein trafnidiaeth (Dilwyn Coaches) yn gadael swyddfa Cymdeithas y Deillion am 10:45 gan godi cerddwyr hefyd yn Nhregarth am 15:00

Byddwn yn ôl ym Mangor ddim hwyrach na 15:20.

Edrych ymlaen i’ch gweld chi i gyd.

Byddwn yn gohirio’r daith os bydd tywydd garw.

Os bydd angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a neges destun erbyn 6yh ar y noson cyn y daith gerdded.

Wrth ymateb i'r e-bost hwn a allech gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon testun os gwelwch yn dda.

Mae'n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl fel y gallwn drefnu'r tywysydd priodol.

1. A fyddwch chi'n ymuno â ni ar y daith gerdded?

2. A oes unrhyw un yn dod gyda chi?

3. Oes angen gwirfoddolwr tywys â golwg arnoch chi?

4. Rhif ffôn symudol.

5. Ble byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?

Rydyn ni nawr yn cynllunio rhaglen ar gyfer gweddill 2024 felly os oes gennych chi unrhyw syniadau am lwybrau newydd neu efallai hoff daith gerdded bersonol yna rhowch wybod i ni.

Rydym yn fwy na pharod i ymuno â chwpl o wirfoddolwyr i archwilio unrhyw awgrymiadau llwybr posibl.

Ffoniwch 01248 353 604 neu anfon at: bethan@admin.org.uk

llwybr cerdded wedi cael ei gau gan giat