Hysbysiad taith gerdded dydd Mercher, Awst 13, 2025 - Lôn Las Ogwen o Bethesda i Fangor
Taith Gerdded Dydd Mercher, Awst 13, 2025 – Lôn Las Ogwen o Bethesda i Fangor
Helo bawb! Ar gyfer taith fis Awst, fe fyddwn yn parhau gyda’r daith hyfryd ar hyd Llwybr Llechi Lôn Las Ogwen - y tro hwn o Bethesda i Fangor.
Fe fyddwn yn gorffen y daith yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, lle bydd paned o de neu goffi yn ein disgwyl.
Byddwn yn dechrau’r daith ar Heol y Stesion, Bethesda (ger siop Londis) am tua 11:00, gan gerdded ar hyd y Lôn Las trwy Dregarth ac ymlaen i gaffi Moel-y-Ci, lle bydd cyfle i gael bwyd, diod, a seibiant bach.
Mae byrddau picnic a thoiledau ar gael yno hefyd.
Mae’r llwybr yn wastad ac ar darmac, a’r pellter yn tua 6 milltir.
Mi fyddai’n syniad da i wisgo esgidiau a dillad addas.
Mae’r Gymdeithas wedi trefnu bws o’r swyddfa yng Mangor am 10:30 gan gyrraedd Bethesda tua 10:50. Cychwyn cerdded am 11:00, ac yna cyrraedd Bangor tua 15:00.
Os ydych chi’n bwriadu ymuno â ni, byddai'n help mawr pe gallech roi gwybod i Bethan Sage Williams (C.D.G.C.) erbyn Dydd Mercher, Awst 6 er mwyn inni fedru trefnu’r cludiant cywir.
Edrychwn ymlaen yn fawr iawn at eich cwmni - bydd yn ddiwrnod bendigedig!
Mark


