Hysbysiad: Taith Gerdded y Ddwy Bont – Dydd Mercher, Medi 16, 2026
Byddwn yn ymweld â Phont Grog y Borth/Pont Menai a Phont Britannia ar ein taith gerdded y mis hwn.
Mae'n daith hawdd o tua 4 milltir.
Bydd y daith yn cychwyn ar ochr Bangor o Bont Menai, lle byddwn yn mynd ar hyd rhan o’r llwybr arfordirol tuag at Bont Britannia.
Yna byddwn yn dychwelyd ar hyd yr un llwybr i Bont Menai, ac yn croesi draw i Ynys Môn.
Byddwn yn parhau â’n taith gerdded i Ynys Tysilio
Credir bod yr hen eglwys wedi’i hadeiladu ym 1400. Yna byddwn yn mynd ar hyd Rhodfa’r Belgiaid, lle rydym yn bwriadu cael cinio tua 12:30yp.
Mae meinciau ar Rodfa’r Belgiaid lle gallwn eistedd i fwyta.
Ar ôl egwyl fer, byddwn yn parhau ar hyd y rhodfa ac yn cerdded o amgylch tref Porthaethwy, gan wneud ein ffordd yn ôl i’r bont i groesi yn ôl i’r tir mawr ac i’n man cychwyn.
Dyma wybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wybod cyn y daith:
• Byddwn yn cyfarfod ar ochr Treborth o Bont Menai
• Bydd y daith yn cymryd tua 3 awr, gan ddechrau am 11yb
Bydd angen y canlynol arnoch: Dillad addas gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad gwrth-ddŵr a phecyn cinio.
Fel arfer, mae bws wedi’i ddarparu gan CDGC i adael ein swyddfeydd ym Mangor am 10:30yb a dychwelyd tua 14:45yp.
Os ydych yn teithio mewn car, mae digon o le parcio rhwng Pont Menai a Gardd Fotaneg Treborth.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i Bethan Sage Williams (CDGC.) erbyn dydd Gwener, Medi 11 fan bellaf, os ydych yn bwriadu ymuno â ni.
Edrychwn ymlaen at eich cwmni eto’r mis hwn.
Mark


