Ian am ein harwain ar daith i Bodffordd, Ynys Môn
Ein gwirfoddolwr Ian Morris Jones sydd wedi trefnu’n taith gerdded nesaf, ddydd Mercher, Mawrth 18fed, 2026.
Bydd y daith 3.6 milltir yn dechrau yn Bodffordd, Ynys Môn cyn cerdded ar hyd glannau Llyn Cefni.
Byddwn yn cerdded ar hyd llwybr cyhoeddus trwy'r goedwig ger glannau Llyn Cefni.
Yna byddwn yn anelu at Rhosmeirch cyn gorffen y daith yn Oriel Môn, Llangefni.
Mae'r llwybr yn gadarn a llydan ond, ar adegau, rhaid bod yn ofalus o’r ochrau serth.
Gall y llwybr fod yn wlyb, felly bydd angen sgidiau addas.
Bydd angen côt law hefyd!
Mae'r milltir a hanner olaf yn dilyn pafin ger ochor y ffordd tryw Rhosmeirch ac i Oriel Môn.
Rhaid bod yn ofalus o’r traffig ar hyd y rhan yma.
Rydym wedi hysbysu caffi bach y cwrs golff ger ochr yr Oriel y byddwn yn galw yno ar ddiwedd ein taith.
Bydd toiledau ar gael yn yr Oriel ar ddiwedd y daith.
Bydd y bws yn ein casglu o'r Oriel am 2 o'r gloch mer mwyn dychwelyd i Fangor.
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - wedi trefnu cludiant yn gadael y swyddfa ym Mangor am 10:30yb.
Os hoffech ymuno â ni, rhowch wybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdethas yn ddim hwyrach na Dydd Llun, Mawrth 9fed fel y gallwn gadarnhau niferoedd ar gyfer y bws.
Teithiau i ddilyn:
15.4.26 Cwm Penamnen, Dolwyddelan gyda Ioan Davies, warden Parc Cenedlaethol Eryri.
20.5.26 Gwarchodfa Natur Cemlyn (Arfordir Gogledd Ynys Môn) gyda Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth Natur.


