Llongyfarchiadau i Anest ar gymwyso fel Arbenigwr Adsefydlu Golwg
Llongyfarchiadau i Anest Jeffery ar gymhwyso fel Arbenigwr Adsefydlu Golwg, yn dilyn cwrs dwy flynedd ym Mhrifysgol Birmingham.
Mae Anest yn gweithio i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru sy'n gwasanaethu Ynys Môn a Gwynedd.
Mae hi’n un o ddim ond 35 o weithwyr proffesiynol, cymhwysiedig, yng Nghymru sy’n cefnogi pobl â nam ar eu golwg i aros mor annibynnol â mor ddiogel â phosibl, ac i wella ansawdd eu bywyd.
Gwneir hyn trwy hyfforddiant ym meysydd symudedd, cyfathrebu, sgiliau bywyd a nam golwg yn ogystal ag arddangos a dosbarthu offer a chodi ymwybyddiaeth a chyfeirio at wasanaethau cymorth eraill yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae'n ymuno â thîm o dri o swyddogion cymwysiedig eraill gyda’r Gymdeithas a swyddog arall dan hyfforddiant, sydd hanner ffordd drwy’r cwrs.
Mae’r Gymdeithas, a ddathlodd 140 mlynedd yn ddiweddar, yn cefnogi pobl ar draws Gogledd Cymru ac yn darparu gwasanaeth adsefydlu, sy’n cynorthwyo tua 900 o bobl sydd â nam ar eu golwg yn eu cartrefi ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Dywedodd uwch swyddog adsefydlu, Dafydd Eckley: “Mae Anest wedi gweithio gyda ni ers 2021 ac mae hi wedi dod yn aelod gwerthfawr iawn o dîm o 12 o weithwyr sydd wedi’u lleoli yn ein canolfan adnoddau ym Mangor.”
Dywedodd Anest: “Diolch o galon ichi am eich geiriau caredig. Diolch hefyd i bawb yn y Gymdeithas am eich holl gefnogaeth amrhisiadwy. Rwyf yn ei werthfawrogi yn arw. Rwy’n ffodus iawn o gael gweithio fel rhan o dîm arbennig ac edrychaf ymlaen i barhau i roi cymorth a chefnogi pobl gyda nam golwg yn Ynys Môn a Gwynedd. Mae yn wir, yn fy marn i, yn swydd pwysig a gwerthfawr iawn.”