Medal aur i Nick ym Mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth y Byd!
Mae Nick, 47, o Dalysarn yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, wedi ei gofrestru’n ddall.
Roedd yn cynrychioli Prydain yn y pencampwriaethau yn Ne Corea.
Mae’n gweithio fel swyddog datblygu i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.
Mewn neges, dywedodd gwraig Nick, Marie: “’Dwi i mor falch. Mae dy holl waith caled a dy ymroddiad wedi talu ar ei ganfed.”
Mae wedi ennill medalau ar lefel Prydain, Ewrop a’r Byd.
Cynhaliwyd y gystadleuaeth fedalau ym mhrif sgwâr dinas Gwangju.
Dywedodd Nick cyn y gystadleuaeth: “Mae’n rhaid i mi gredu fy mod i’n ddigon da i ennill neu dydw i ddim yn meddwl bod unrhyw bwynt i mi fynd.
“Mae angen hyder arnoch chi, efallai hyd yn oed ychydig o haerllugrwydd. Rydw i’n mynd i wneud fy ngorau a’r gobaith yw y bydd fy ngorau ar y diwrnod yn ddigon.”
Ychwanegodd: “Rydw i’n mwynhau’r awyrgylch — y gerddoriaeth, y torfeydd, y bloeddio,” meddai.
“Mae’n fy ymlacio. Pan fyddwch chi’n saethu mae pawb yn dawel, ond mae popeth arall o’i gwmpas yn ychwanegu at yr achlysur.”
Mae para-saethyddiaeth yn cynnwys pob cystadleuydd yn gweithio gyda sbotiwr, sy'n rhoi gwybodaeth i’r saethydd ble mae eu saethau'n glanio ar y targed gan ddefnyddio system gloc.
Fel arfer, gwraig Nick, Marie, sy'n gweithredu fel ei sbotiwr, ond yn Ne Corea, ei frawd-yng-nghyfraith Tom Hutton oedd yn cymryd y rôl.
Llun yn dangos Nick Thomas, chwith, yn gwenu’n hapus gyda’i sbotar, Tom Hutton, ar ôl iddo ennill y fedal aur! (World Archery)
