A- A A+

English

Myfyrwyr yn meistrioli hyfforddiant ymwybyddiaeth nam golwg

Cafodd myfyrwyr ym mhrifysgol Bangor hyfforddiant ymwybyddiaeth nam golwg yr wythnos hon.

Roedden nhw i gyd yn fyfyrwyr ar y cwrs meistr gwaith cymdeithasol.

Prif nod yr hyfforddiant yw rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i roi cefnogaeth addas i bobl sy’n byw gyda nam golwg.
 
Nodau eraill yr hyfforddiant yw sicrhau fod y mynychwyr yn -

  • teimlo’n fwy hyderus i weithio ac unigolion a nam ar eu golwg.
  • Gwerthfawrogi yn fwy anghenion amrywiol unigolion dall neu rhannol ddall.
  • Gwell dealltwriaeth o wahanol gyflyrau a’u heffaith ar fywyd dyddiol unigolyn.
  • Yn meddu ar sgiliau arwain sylfaenol i gefnogi unigolion â nam golwg.
  • Yn meddu ar wybodaeth am wasanaethau lleol a chenedlaethol i gefnogi unigolion â nam golwg.

Cafwyd ymateb ac adborth ffafriol iawn i’r hyfforddiant oedd hefyd yn ymarferol a phwrpasol.

Dywedodd y myfyrwyr eu bod wedi elwa’n fawr o’r hyfforddiant ac wedi dysgu llawer o elfennau fydd o gymorth mawr iddyn nhw.

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn cynnig cyrsiau hyfforddiant ymwybyddiaeth debyg i unrhyw sefydliad, cwmni, cymdeithas ac ati sydd eisiau gwybod mwy am weithio gyda phobl sy'n byw gyda nam golwg.

Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Dafydd Eckley ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk neu dewch i'n gweld am sgwrs yn ein swyddfa yn 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd.

Lluniau yn dangos y myfyrwyr yn gwisgo mygydau ac yn cael eu tywys fel rhan o’r hyfforddiant ym mhrifysgol Bangor