Nick yn dathlu ar ôl ennill medal ym mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth Ewrop
Dyma luniau gwych o Nick Thomas yn dathlu ar ôl ennill medal efydd ym mhencampwriaethau Para-Saethyddiaeth Ewrop yn Rhufain yr wythnos ddiwethaf.
Mae Nick yn gweithio fel swyddog datblygu gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind ym Mangor.
Roedd gwraig Nick, Marie Claire Thomas, gyda fo ac yn gweithredu fel ei ‘sbotiwr’, i ddweud wrtho ble roedd ei saethau yn glanio ar y bwrdd ar ôl pob ergyd.
Dywedodd Nick: “Diwrnod hir, poeth ond da mewn lleoliad godidog. Nid lliw’r fedal roeddwn i’n gobeithio amdano ond medal yr un fath.
Meddai: “Dal i feddwl amdano fel taith lwyddiannus ac mae gin i bethau clir i weithio arnynt.
"Diolch i chi gyd am eich cefnogaeth a diolch enfawr i Marie am bopeth mae hi wedi'i wneud i mi yr wythnos hon, ni fyddwn wedi gallu eu gwneud hebddi."
Mae’r lluniau’n dangos Nick yn anelu ei fwa a’i saeth at y targed a hefyd yn gwenu wrth ddangos ei fedal a baner y Ddraig Goch yn falch ar ddiwedd y cystadlaethau yn Rhufain, yr Eidal.