Noson elusennol i’r deillion yn llwyddiant mawr!
Roedd noson elusennol a gynhaliwyd yng Nghlwb Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caernarfon er budd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn llwyddiant mawr.
Cynhaliwyd y Sioe Talentau Lleol nos Wener ddiwethaf (26.6.26).
Fe’i trefnwyd gan Walter Richards a’i griw o 12 o berfformwyr rhadlon.
Roedd Walter wedi meddwl fod ei “fywyd ar ben” pan gafodd ei gofrestru’n ddall i ddechrau.
Yn ddiweddarach, roedd o eisiau “rhoi rhywbeth yn ôl” i ddiolch am y gefnogaeth mae wedi ei dderbyn yn enwedig ar ôl iddo ymuno gyda theithiau Clwb Cerdded Eryri sy’n cael eu trefnu’n fisol gan y Gymdeithas.
Gwnaeth cynulleidfa o 150 fwynhau gwrando ar ragor na dwsin o dalentau lleol yn canu yn ystod y noson.
Ymysg y talentau oedd Y Tri Cofi, anfarolwyd ar Britain’s Got Talent, gyda’u canu a dawnsio unigryw - a Gwyn Williams, sydd fel Walter, yn mwynhau’r teithiau cerdded.
Cynhaliwyd raffl a bingo gyda Yvonne Hughes yn arwain y noson a Bryan o Dragonz Disco yng ngofal y gerddoriaeth.
Diolch i haelioni pawb a brynodd docynnau, a’r raffl, codwyd cyfanswm o £1,100 i’r Gymdeithas.
Mae teithiau cerdded y Gymdeithas yn boblogaidd iawn. Daeth 32 o aelodau ar ein taith ddiweddaraf i Ddolwyddelan.
Mae cerdded yn yr awyr iach yn llesol i’r corff a’r meddwl ac mae pawb yn mwynhau cyfarfod a sgwrsio gyda’r gwirfoddolwyr sydd i gyd yn dywyswyr profiadol.
Mae pawb yn edrych ymlaen at y teithiau.
Mae croeso i unrhyw un sydd a nam golwg i ymuno â ni.
Os hoffech chi wirfoddoli fel tywysydd ar ein teithiau neu i gyfrannu tuag at y Gymdeithas mewn unrhyw fodd, mae croeso ichi ffonio Bethan Sage Williams ar 01248 353604 neu admin@nwsb.org.uk
Llun yn dangos y perfformwyr i gyd gyda’i gilydd ar y llwyfan ar ddiwedd y sioe

