Basged (0) Mewngofnodi

Perfformiad dawns Hiraeth yn hygyrch i bawb sy’n byw gyda nam golwg

Bydd dawnswyr yn troelli a hedfan yn yr awyr mewn perfformiad hygyrch i bawb sydd â nam golwg.

Bydd set Hiraeth, Lost Roots yn un rhyngweithiol gyda chyfle i bobl sy’n ddall neu sydd â nam golwg i gael taith gyffwrdd a chyfarfod yr artistiaid cyn y ddwy sioe ar Awst 16, 2025.

Dywedodd Angharad Jones o Gwmni Dawns Hedydd fod eu perfformiad yn dilyn siwrne pedair merch ar “daith bwerus o berthyn.”

Yn dechrau wrth fwrdd bwyd y teulu mae’r teithwyr yn mentro ar draws y môr, i fyny mynyddoedd, trwy goedwig hynafol a chael eu golchi fyny ar y lan cyn cael eu hadennill gan natur.

Mae’r bedair yn plethu straeon personol gyda chwedlau Celtaidd, Groegaidd ac o Wcraen.

Mae’r sioe yn cynnwys cerddoriaeth fyw a naratif barddonol gan Eadyth Crawford.

Dyma ddolen ar gyfer disgrifiad sain o’r sioe:

Bydd dau berfformiad yn Galeri, Doc Fictoria, Caernarfon ar 16.8.25.

Taith gyffwrdd 13.15-14.00; Sioe Hiraeth 14.30 a thaith gyffwrdd 17.45-18.30; Sioe Hiraeth 19.00.

Cysylltwch â hedyddcyf@gmail.com i archebu lle ar y taith gyffwrdd.

Tocynnau i’r sioe: Hiraeth / Lost Roots