A- A A+

English

Phill Jones yn canu mewn gig elusennol i godi arian i’r deillion

Bydd Phill Jones yn canu mewn gig elusennol i godi arian i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.

Cafodd Phill, 22, o Gaernarfon, ei eni gyda nam golwg.

Dydio ddim yn medru gweld yn bellach na un medr o’i flaen a does ganddo ddim golwg ymylol.

Mae’n defnyddio technoleg â chymorth i’w alluogi i ddarllen print a’i newid i faint 36.

Meddai Phill: “D’oes 'na ddim triniaeth i wella fy nghyflwr ond dwi’n gwybod eith o ddim gwaeth.”

Ers y dechrau, cafodd Phill gymorth gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor.

Meddai Phill: “Mae’r Gymdeithas wedi bod yn help mawr imi yn fy mywyd ers blynyddoedd. Maen nhw wedi fy ngalluogi i wneud grŵp o ffrindiau agos a chael annibyniaeth o ddydd i ddydd yn fy mywyd personol.

“Mae gen i ddiolch mawr i Steve, Dafydd, Nick a’r criw.”

Mae Phill yn gweithio fel derbynydd i gyfreithwyr Pritchard Jones a Lane yng Nghaernarfon.

Mae o hefyd wedi dysgu chwarae gitâr ac mae’n gigio a chanu rownd tafarndai lleol bron pob penwythnos.

Dewch i wrando ar Phill a’i fand a gwesteion arbennig yn chwarae yn Jac Y Do, 1, Stryd y Farchnad, Caernarfon nos Wener, Tachwedd 14, 2025.

Drysau’n agor am 6yh. Mynediad am ddim.

Dewch i gefnogi achos gwych ac i fwynhau noson o gerddoriaeth!

Bydd cyfle i gyfrannu i'r elusen arbennig yma ar y noson.

Gwyliwch Stori Phill Jones

  • Phill Jones yn y stiwdio
  • Phill Jones gyda'i gitar
  • Phill Jones o flaen murlun CDGC