Basged (0) Mewngofnodi

Phill yn canu ‘Diolch i Chdi’ ar raglen Heno, S4C

Mae cerddor ifanc sydd â nam golwg newydd ryddhau ei sengl cyntaf yn sôn am ei brofiadau o fyw gyda nam golwg. Dywedodd Phill Jones, 22, o Gaernarfon fod y gân ‘Diolch i Chdi’ yn sôn am ei brofiad o “fod mewn lle tywyll ac unig pan yn ifanc.”

Nos Lun, Chwefror 2, fe ymddangosodd Phill ar raglen Heno S4C pan gafodd ei holi gan Owain Tudur Jones ac Elin Fflur. Hefyd fe ganodd Phll ei gan yn fyw ar y rhaglen. Dywedodd Phill, sy’n gweithio i gwmni o gyfreithwyr, mai neges y gân yw dweud “Diolch” i’w holl ffrindiau a theulu am eu cefnogaeth a bod yna olau ar ddiwedd cyfnod tywyll mewn bywyd.

Fe ysbrydolwyd Phill gan y canwr Elidyr Glyn a’r band poblogaidd Bwncath i ddechrau cyfansoddi caneuon gwreiddiol. Meddai Phill: “Ma' ysgrifennu caneuon yn ffordd i mi allu dangos emosiwn a fy nheimladau. “Hefyd dwi’n gobeithio ysbrydoli pobl eraill sydd â nam golwg i wireddu eu breuddwydion a mynd amdani mewn bywyd – a dim gadael i’r nam golwg eu dal nhw yn ôl.”

Dyma fideo o Phill yn cael ei holi ac yn canu ‘Diolch i Chdi’ gyda ychydig o luniau hefyd o’i amser yn Stiwdio Heno/Tinopolis yn Llanelli.

“Diolch i Chdi” ar Spotify

“Diolch i Chdi” ar YouTube