Pleidleisiwch i Einir!
Fis Awst diwethaf fe gyhoeddon ni stori am ferch “brysur” o Fethesda oedd wedi’i phenodi’n gydlynydd llyfrau llafar Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind.
Cafodd y stori dipyn o sylw a holwyd Einir Wyn Williams ar raglen Post Prynhawn, BBC Radio Cymru.
Ymddangosodd y stori ar wefan Ogwen360 sef gwefan ardal Bethesda a Dyffryn Ogwen, Gwynedd - a nawr mae wedi cyrraedd rhestr fer categori "Gwobr y Bobl" gwefannau bro Golwg360.
Mae golygyddion Golwg360 wedi dewis 15 stori mwyaf poblogaidd eu gwefannau bro yn 2025.
Ac mae stori Einir yn un ohonynt. Nos Wener, Ionawr 23, 2026 cynhelir Gwobrau’r Gwefannau Bro. Seremoni ar-lein, a bydd gwahoddiad i bawb ymuno drwy Golwg360.
Mae'r bleidlais ichi ddewis stori Einir fel y stori orau ar agor tan Ionawr 16 - dyma'r ddolen: bro.360.cymru/2025/gwobrau-bro360-2026/
