A- A A+

English

Rhybudd o’n taith gerdded nesaf i Biwmares

Taith Gerdded Gylchol Biwmares a'r ardal - dydd Mercher, Chwefror 19, 2025

Bydd un o wirfoddolwyr y Clwb Cerdded, Elaine Roberts, yn ein tywys o amgylch ei thref genedigol ym Miwmares y mis hwn.

Mae'n daith gylchol o tua 4 milltir, yn bennaf ar wyneb caled heblaw am yr angen i groesi cwpwl o gaeau a allent fod ychydig yn fwdlyd os yw'n bwrw glaw yn y dyddiau cyn y daith.

Felly, cynghorir pawb i wisgo esgidiau a dillad priodol.

Byddwn yn cychwyn ac yn gorffen y daith gerdded ger y toiledau sydd wedi'u lleoli rhwng Canolfan Gymunedol David Hughes a'r castell yn y dref. (LL58 8AL).

Byddwn yn cael seibiant am ginio yng Nghlwb Golff Henllys lle rydym wedi cael caniatâd i ddefnyddio'r byrddau picnic ger y clwb. Bydd caffi'r clwb ar agor fel y gallwn brynu te/coffi, byrbrydau os oes angen.

Bydd cludiant yn cael ei ddarparu gan CDGC yn gadael y Gymdeithas am 10:30 ac yn dychwelyd o Fiwmares am 14:30 i gyrraedd yn ôl ym Mangor tua 15:00.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdeithas os ydych yn bwriadu ymuno â'r daith erbyn dydd Mercher 12 Chwefror fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.

Edrych ymlaen at eich gweld chi i gyd, Mark.