Rhybudd o’n taith gerdded nesaf i Dinorwig 18.2.26
Mae Eurwyn Thomas (gwirfoddolwr) wedi trefnu’n taith gerdded nesaf, ddydd Mercher, Chwefror 18, 2026.
Byddwn yn cerdded o Chwarel Dinorwig i Nant Peris, tua 3.5 milltir ar llwybr hawdd.
Mae’r rhan fwyaf o’r daith ar wyneb cadarn, gyda dim ond un rhan byr sydd ychydig yn anwastad.
Byddwn yn cyfarfod am 11:30yb ger pwynt troi’r bws ar ben pellaf Dinorwig, ac fe fyddwn yn stopio am ginio cynnar yn y man gwylio ar hyd y daith.
Nid oes caffis na siopau ar y llwybr, felly cofiwch ddod â’ch bwyd a’ch diod eich hun, ynghyd â dillad ac esgidiau addas.
Nid oes toiledau ar ddechrau’r daith, ond mae rhai ar gael ar ddiwedd y daith yn Nant Peris.
Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind wedi trefnu cludiant yn gadael y swyddfa am 10:30yb,yn casglu yn safle bysiau Morrisons, Caernarfon am 10:50yb, ac yn cyrraedd mewn pryd i’r daith ddechrau am 11:30yb.
Os hoffech ymuno â ni, rhowch wybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdethas hwyrach na Dydd Gwener, Chwefror 13, fel y gallwn gadarnhau niferoedd ar gyfer y bws.
Mae Eurwyn yn edrych ymlaen yn fawr at eich cwmni eto’r mis hwn.



