A- A A+

English

Rhybudd o’n taith nesaf i Llanddwyn a choedwig Niwbwrch - Dydd Mercher, Ebrill 23 2025

Sylwer: Bydd ein taith gerdded y mis hwn yn digwydd ar y 4ydd dydd Mercher o'r mis ac nid ein 3ydd dydd Mercher arferol.

Ar gyfer ein taith gerdded y mis hwn byddwn yn dychwelyd i Ynys Môn lle byddwn yn cerdded trwy Goedwig Niwbwrch gan wneud ein ffordd i lawr i draeth hardd Llanddwyn.

O'n man cyfarfod yn y maes parcio byddwn yn dilyn y trac coedwig i lawr i'r traeth - pellter o ychydig dros 2 filltir ar wyneb cadarn.

Ar y traeth y byddwn yn torri am ginio.

Ar ôl cinio byddwn yn dychwelyd yr un ffordd gan anelu at y Cob sy'n cysylltu Niwbwrch a Malltraeth, gan orffen y daith yn y Joiners Arms lle gellir prynu diodydd yn ogystal â defnyddio toiledau.

Mae'r daith gerdded y mis hwn ychydig yn hirach na'r arfer, sef tua 5.5 milltir.

Cynghorir pawb i wisgo esgidiau a dillad addas a pheidiwch ag anghofio dod â phecyn cinio gyda chi.

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind yn trefnu'r bws ar gyfer ein teithio i Niwbwrch a fydd yn gadael y Gymdeithas am 10:30 gyda'n taith yn ôl yn cychwyn o Malltraeth am 15:30 gan gyrraedd Bangor yn ôl tua 16:00.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Williams yng Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind os ydych chi'n bwriadu ymuno â ni ar y daith erbyn dydd Iau, Ebrill 17 fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.
Os ydych chi'n bwriadu gwneud eich ffordd eich hun i'r man cychwyn, mae'r maes parcio wedi'i leoli ar ochr dde'r ffordd wrth i chi deithio o Niwbwrch i Malltraeth (LL61 6SU).

Byddwn yn pasio'r maes parcio ar ein ffordd ymlaen i'r Cob.

Gallwch orffen y daith yma os dymunwch, neu ymuno â ni yn y Joiners Arms sydd tua milltir o'r maes parcio.

Yn edrych ymlaen at eich cwmni.

Llun: Traeth Llanddwyn. (Brian Deegan, WikiCommons)

  • Lan y Mor Llanddwyn gyda awyr las yn y cefndir
  • Pen gogleddol o lan y mor Llanddwyn gyda tywod a mor