A- A A+

English

Rhybudd taith gerdded Abergwyngregyn i Lanfairfechan – Dydd Mercher, Mawrth 19, 2025

Ar gyfer y daith gerdded y mis hwn, yr arweinydd fydd Kev (Bach) Williams, gynt o Capital Cymru Radio.

Byddwn yn cerdded rhan o Lwybr Arfordir Gogledd Cymru.

Byddwn yn dechrau'r daith ger y brif safle bws ym mhentref Abergwyngregyn am 11yb.

Mae’r daith yn tua 4.5 milltir lle byddwn yn cerdded ar rannau o'r traeth a thrwy gaeau fwy neu lai yn gyfochrog â’r Afon Menai.

Fel y gwnawn fel arfer, byddwn yn stopio am ein hegwyl ginio tua hanner ffordd drwy'r daith.

Ar ôl inni gyrraedd Llanfairfechan mae caffi lle gellir prynu lluniaeth a thoiledau.

Cynghorir i bawb wisgo’r esgidiau a dillad priodol.

Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Sage Williams yn y Gymdeithas os ydych yn bwriadu ymuno â'r daith erbyn dim hwyrach na dydd Gwener yma - Mawrth 14 fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.

Bydd y bws gan gwmni bysiau Dilwyn yn gadael swyddfeydd y Gymdeithas ym Mangor am 10.30yb.

Ar gyfer y rhai ohonom fydd yn dychwelyd i Fangor, bydd ein bws yn ein codi ar ddiwedd ein taith yn Llanfairfechan am 2.30yp.

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi i gyd.

Llun yn dangos rhan o Lwybr Arfordir Cymru ger Abergwyngregyn. Diolch i Colin Park, WikiCommons

Lwybr Arfordir Cymru ger Abergwyngregyn