Rhybudd taith gerdded i Drawsfynydd, Dydd Mercher, Mai 21, 2025
Bydd ein taith gerdded y mis hwn yn mynd â ni i ardal Trawsfynydd.
Byddwn yn cyfarfod David P Jones, Uwch Warden gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.
Bydd David yn ein harwain ar daith gylchol hamddenol tua 4 milltir o hyd i Brif Argae Llyn Trawsfynydd trwy Goed Caersaeson ac yn ôl i'r maes parcio i ymwelwyr.
Gall rhan fach o'r llwybr drwy Goed Caersaeson fod yn anwastad ond dylai fod yn iawn os ydym yn cymryd gofal.
Byddwn yn dechrau a gorffen ym maes parcio ymwelwyr Llyn Trawsfynydd.
Mae David wedi trafod gyda chwmni Magnox a byddant yn agor y Ganolfan Ymwelwyr i ni ddefnyddio'r toiledau yno.
Gan fod y daith gerdded i ddechrau am 11:30 ym maes parcio'r ymwelwyr, bydd yn rhaid i ni adael Bangor ychydig yn gynt nag arfer.
Bydd bws Dilwyn's Coaches yn gadael canolfan y Gymdeithas am 10:00yb gan gasglu rhai aelodau yn Morrisons Caernarfon am 10:20.
Byddwn yn gadael ar gyfer ein taith yn ôl o Drawsfynydd tua 14:45yp gan gyrraedd Bangor yn ôl tua 16:00yp.
Cynghorir pawb i wisgo dillad ac esgidiau addas a pheidiwch ag anghofio'ch pecyn cinio.
Byddem yn gwerthfawrogi pe gallech roi gwybod i Bethan Williams yn y swyddfa ym Mangor os ydych yn bwriadu ymuno â ni erbyn dydd Gwener Mai 16 fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol.
Yn edrych ymlaen yn fawr at eich cwmni eto y mis hwn.
Llun yn dangos golygfeydd o Lyn Trawsfynydd o gyfeiriad Tomen-y-Mur. Tynnwyd gan Keith Ruffles, WikiCommons