Sesiwn celf a chrefft yn llwyddiant mawr!
Daeth hanner dwsin o bobl gyda nam golwg i’r sesiwn celf a chrefft i bobl dall a phobl gyda nam golwg yn ein canolfan adnoddau ym Mangor.
Roedd pawb wedi mwynhau creu a darlunio potiau blodau lliwgar.
Roedd yna amrywiaeth yn oedran y crefftwyr, gyda rhai yn eu 20au ac eraill yn eu 80au a’u 90au.
Bydd thema pob sesiwn yn wahanol. Byddan nhw yn cael eu cynnal bob pedwerydd dydd Iau yn y mis gyda’r cyntaf ddydd Iau, Gorffennaf 24ain, 2025.
Mae’r sesiynau yn cael eu harwain gan artist lleol, Lydia Fernandez-Arias, ac yn cynnwys peintio, collage, crefftau cyffyrddol a phrosiectau tymhorol.
Mae’r sesiynau am ddim ac ar gael i unrhyw un sy'n byw gyda nam golwg. Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol.
Darperir te, coffi, a chwmni da bob amser.
Mae'r sesiynau hyn yn gyfle i archwilio creadigrwydd, meithrin hyder, a chysylltu ag eraill mewn amgylchedd hamddenol a chefnogol.
Lleoliad: Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd LL57 1YB
Amser: 10yb-12yp
Am fwy o wybodaeth a hefyd i archebu eich lle, ffoniwch Bethan 01248 353 604
Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind


















