Sylw gwych i Gymdeithas y Deillion a Chlwb Cerdded Eryri ar raglen Shân Cothi ac yn erthygl BBC Cymru Fyw
YCHYDIG dros wythnos yn ôl (Mai 21) daeth 28 o gerddwyr gyda ni ar ein taith gerdded ddiweddaraf i ardal Trawsfynydd – a phump o gŵn tywys.
Arweinydd y daith hyfryd hon oedd David P Jones a Robat Davies, y ddau’n wardeiniaid gydag Parc Cenedlaethol Eryri.
Gwnaeth pawb fwynhau’r daith gylchol 4.5 milltir i Brif Argae Llyn Trawsfynydd.
Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru sy’n trefnu teithiau Clwb cerdded Eryri walking club, gyda Mark Roberts, a’i gi tywys, Forest, yn arwain.
Yn ystod y daith, fe wnaeth Mark Roberts gyfweliad gyda Shân Cothi, BBC Radio Cymru gan son am ei waith yn gwirfoddoli fel arweinydd gyda’r clwb cerdded.
Os hoffech chi wrando ar y cyfweliad mae linc wedi cael ei gynnwys yn yr erthygl yma gan Anna George ar wefan BBC Cymru Fyw.
Diolch yn fawr i Shân Cothi, Anna George a BBC Radio Cymru am roi sylw i Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru ac ein Clwb Cerdded Eryri.
Dyma linc i’r erthygl: https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/c0eqdze893wo
Dyma linc i gyfweliad Shân a Mark, tua 1.15 i mewn: https://www.bbc.co.uk/programmes/m002cdwr