Sylw i Ian sy’n dywysydd i redwyr dall ar raglen Bore Cothi, Radio Cymru
Mae gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cwblhau hyfforddiant fel tywysydd i ddeillion sy’n rhedeg.
Dechreuodd Ian Morris Jones o Brynteg, Ynys Môn wirfoddoli gyda’r Gymdeithas y llynedd wedi iddo wella o’i anafiadau ar ôl damwain seiclo.
Ers hynny mae Ian, sy’n briod ac yn dad i ddau, wedi gwirfoddoli fel tywysydd ar deithiau cerdded Clwb Cerdded Eryri a drefnir yn fisol gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Mae Ian yn redwr, naturiaethwr ac adarwr brwd ac mae’n un o drefnwyr ParkRun Niwbwrch, Ynys Môn.
Ddydd Llun (Ebrill 13) cafodd Ian ei holi gan Shan Cothi ar ei rhaglen Bore Cothi ar BBC Radio Cymru.
Mae’n bosib gwrando eto drwy lawrlwytho
Roedd cyfweliad Ian rhwng 1:09-1:21.



