Taith braf o’r Felinheli i Gaernarfon ar ddechrau’r flwyddyn
Daeth 27 o gerddwyr a chwech ci tywys ar ein taith gerdded gyntaf o’r flwyddyn - o’r Felinheli i Gaernarfon.
Roedd yn gyfle gwych i fwynhau cwmnïaeth ac ystwytho’r corff yn yr awyr iach ar hyd y daith bedair milltir, tair awr a hanner o hyd.
Fe wnaethon ni ymgynnull wrth ymyl tafarn a bwyty’r Garddfon Inn.
Roedd y golygfeydd yn odidog gyda’r haul yn gwenu ac enfys uwchben Y Felinheli.
Fe ddechreuon ni’r daith drwy gerdded i fyny’r allt allan o’r pentref ac ar hyd y Lôn Las – y llwybr cerdded a beicio sy’n cysylltu’r pentref gyda Chaernarfon.
Fe gawsom ni ein cinio yn Plas Menai lle’r oedd byrddau picnic ar gael yn ogystal â bwyd, diodydd a thoiledau. Diolch yn fawr iddyn nhw am eu croeso.
Fe anelon ni wedyn yn ôl ar hyd y llwybr gan basio safle ffatri Ferodo a arferai gyflogi cannoedd o weithwyr yn cynhyrchu leinin brêc i geir.
Mae’r gweithwyr yn enwog am iddyn nhw fod ar streic am bron i dair blynedd yn 2001-2003 ar ôl cael eu cloi o’r gweithle gan y perchennog.
Ymhen dim, roedden ni wedi pasio safle Plas Brereton a Phlas Tŷ Coch, y ddau blasty bellach wedi hen fynd â’u pen iddynt ar gyrion tref Caernarfon. Ar un adeg roedd ganddynt ddoc preifat fel rhan o’r ystâd.
Wedyn, fe gerddon ni heibio Porth Waterloo gyda rhesiad o dai ar ymyl y dŵr cyn dod at ardd a mainc neu ddwy a cherrig ar safle yr Hen Erddi.
Yna, golwg ar farina’r dref a’r bwytai yno cyn diwedd y daith yn Morrisons, Caernarfon, lleoliad cyn orsaf drenau’r dre gyda phawb wedi mwynhau ac yn edrych ymlaen at y daith nesaf y mis nesaf.
Os ydych eisiau rhagor o fanylion, ffoniwch Bethan Sage Williams yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru - North Wales Society of The Blind, 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk



