Basged (0) Mewngofnodi

Taith ddiddorol er gwaetha’r gwynt a’r glaw!

Daeth 21 o gerddwyr a thri ci tywys ar ein taith gerdded ni heddiw o amgylch Llyn Padarn, Llanberis. 

Roedd y daith i fod i fynd o Chwarel Dinorwig i Nant Peris, ond oherwydd y gwyntoedd cryfion penderfynwyd y bydde yn ddiogelach newid y daith a cherdded o amgylch y llyn. Roedd hi’n wyntog wrth inni ddechrau gyda’r gwynt yn gryf yn ein wynebau wrth inni fynd o Ben Llyn ger Brynrefail.

Gyda un o’n gwirfoddolwyr, Eurwyn Thomas, yn arwain fe wnaethom anelu at gysgod y twnel hyd at y toiledau ar ochr y llyn. Roedd yn braf cael cysgodi am ginio yng nghaffi’r Lone Tree Cafe yn y Glyn cyn cerdded ymlaen at ddiwedd y daith 3.7milltir ger yr Amgueddfa Llechi Genedlaethol lle’r oedd y bws yn ein disgwyl i’n cludo yn ôl i Fangor.

Roedd pawb wedi mwynhau cwmni ein gilydd er gwaetha’r tywydd ac yn edrych ymlaen at y daith y mis nesaf.

  • pobl yn cerdded fewn grwp ar llwybyr cerdded
  • pobl yn cerdded ar llwybyr gyda pyllau fawr