Taith gerdded ar hyd Lôn Las Menai
Dydd Mercher 16 Tachwedd 2022
Rydym wedi trefnu taith gerdded ar hyd rhan o lwybr beicio Lôn Las Menai o Gaernarfon i’r Felinheli sef llwybr rydym wedi ei wneud yn ôl yn 2019.
Rydym wedi bod yn edrych ar daith gerdded newydd yn Llanberis ond gyda’r tywydd garw presennol a’r potensial am amodau anodd yr adeg yma o’r flwyddyn mae’r llwybr beicio yn darparu opsiwn diogel priodol a thrwy ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus reolaidd, bydd hyn yn ein helpu i gynllunio teithiau gerdded uchelgeisiol yn y Flwyddyn Newydd.
Mae bws 5C yn gadael gorsaf fysiau Bangor am 10:23 a disgwylir iddo gyrraedd stondin bws A Caernarfon am 10:44.
Byddwn yn cychwyn ar ein taith gerdded wrth y stondin bws A am 11:00 ac yn cerdded drwy'r dref i Borth yr Aur, ar hyd y blaen a thrwy'r Marina i ymuno â'r llwybr beicio islaw Morrisons.
Rydym wedi trefnu i fwyta ein brechdanau wrth y byrddau picnic yng nghanolfan gweithgareddau Plas Menai ac maent yn hapus i ni ddefnyddio eu lolfa os nad yw'r tywydd yn rhy dda. Dylen ni fod ym Mhlas Menai tua 12:30.
Ar ôl cinio byddwn yn dychwelyd i’r llwybr beicio ac yn parhau i’r Felinheli lle byddwn yn gorffen ein taith gerdded ger y toiledau cyhoeddus o flaen Tafarn y Garddfon am tua 14:00 o’r gloch.
Mae bysiau o'r Victoria Felinheli bob 20 munud ar yr awr ar gyfer y daith 20 munud yn ôl i Fangor neu 5 munud i'r awr ar gyfer y daith ychydig yn fyrrach i Gaernarfon.
Mae ein llwybr bron yn 5 milltir o hyd, ar darmac gyda dim ond graddiant ysgafn ond argymhellir esgidiau cerdded cryf. Mae dillad cynnes sy’n gwrthsefyll y tywydd yn hanfodol a pheidiwch ag anghofio pecyn bwyd.
A fyddech cystal â rhoi gwybod i Bethan os ydych yn bwriadu ymuno â ni ac os byddwch yn Ganolfan Adnoddau NWSB am 10:00, Gorsaf Fysiau Bangor am 10:15 neu Stondin Bysiau Caernarfon am 10:45.
Cofion cynnes,
Mark Roberts
Peter Evison 07940 533758
Bethan Sage Williams 01248 353604