A- A A+

English

Taith Gerdded i Rhyd Ddu

Taith gerdded hyfryd yn Rhyd Ddu – a chlywed y gog yn canu

Daeth criw mawr o aelodau’r clwb ar y daith ddiweddaraf i Rhyd Ddu – ble glywon ni’r gog neu’r gwcw yn canu.

Daeth bws Dilwyn o Dilwyn’s Coaches Bethesda i gasglu’r cerddwyr o ganolfan Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru ym Mangor fore dydd Mercher gan godi’r gweddill o safle bws Morrisons, Caernarfon.

Roedd rhai o’r cerddwyr gyda chŵn tywys – a rhai wedi dod o Landudno a Llan Ffestiniog.

Roedd y daith i Barc Cenedlaethol Eryri wedi ei threfnu gan Mark Roberts a’i harwain gan Peter Evison.

Roedd y daith ychydig dros bedair milltir o hyd ond yn fwy o her na'n teithiau cerdded diweddar.

Roeddem allan am tua thair awr a hanner gan gynnwys stop hanner awr am ginio.

Dechreuodd y daith ym maes parcio gorsaf Rhyd Ddu cyn dilyn y filltir gyntaf i fyny llwybr yr Wyddfa (dringfa o tua 400 troedfedd o Rhyd Ddu).

Fe wnaethom ni fwynhau’r awyr iach a’r golygfedd godigog tuag at yr Aran.

Ar ôl cinio fe wnaethom anelu ein ffordd i lawr llwybr newydd Beddgelert at ymyl Coedwig Beddgelert cyn dychwelyd i Rhyd Ddu heibio Llyn y Gadar.

Cyn hir roedden ni wedi croesi’r bont yn ôl i faes parcio Rhyd Ddu ac at y bws.

Dywedodd un o'r cerddwyr, Barry: "Rydw i wir wedi mwynhau'r daith heddiw. Mae'n dda ei fod wedi bod ychydig yn fwy heriol. Wrth gwrs, mae'r tywydd wedi bod yn berffaith. Llwyddais i ddod â fy nghi tywys.

“Rwy'n hoffi mynd ar deithiau cerdded amrywiol. Mae'n llawer brafiach mynd ar draws gwlad yn hytrach nag ar hyd y ffyrdd."

Meddai Eurwyn: “Roedd hi’n braf i fynd oddiar y lôn. Y rheswm dwi’n mynd oherwydd imi golli fy ngwraig oedd hefyd yn ymuno â’r clwb cerdded. Fe ges i gynnig gan un o’r aelodau i ymuno gyda nhw a dwi’n mwynhau mynd. Mae’n tynnu rhywun allan o’r tŷ. Mae rhywun yn cael ychydig o awyr iach ac mae’n dda i’r iechyd meddwl.”

Ychwanegodd David: “Roedd hi’n daith braf iawn a chael cyfle i fynd i rywle gwahanol. ‘Swn i byth wedi medru darganfod y daith yma fy hun. Mae hi yn braf hefyd sgwrsio efo pobl.”

Mae’r lluniau yn dangos aelodau Clwb Cerdded Eryri yn y man dechrau a’r diwedd wrth orsaf rheilffordd Rhyd Ddu.

Mae lluniau eraill yn dangos aelodau’r Clwb yn cerdded ar hyd y daith.

Mae lluniau hefyd yn dangos y golygfeydd ger Llyn y Gadair, Rhyd Ddu.

Mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn ddiolchgar iawn i’r gwirfoddolwyr sydd yn tywys y cerddwyr ar y teithiau. Heb eu cymorth caredig nhw ni fuasen ni yn medru cynnal y teithiau.

Os oes unrhyw un arall eisiau ymuno â theithiau Clwb Cerdded Eryri, cysylltwch gyda Bethan Williams 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk

llun grwp or cerddwyr