Basged (0) Mewngofnodi

Taith gylchol Gwarchodfa Natur Cemlyn, Ynys Môn, Mai 20, 2026

Ar gyfer ein taith gerdded y mis hwn rydym wedi trefnu taith gerdded gylchol o Warchodfa Natur Cemlyn ar arfordir gogleddol Ynys Môn.

Mae Gwarchodfa Natur Cemlyn yn gartref i un o'r cytrefi mwyaf o wennoliaid y môr yn y DU a bydd Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn ymuno â ni ar ein taith.

Bydd Ben yn dweud wrthym bopeth am boblogaeth yr adar a gwaith yr Ymddiriedolaeth cyn ein harwain ar hyd rhan o Lwybr Arfordirol Ynys Môn.

Mae ein taith ychydig dros 4 milltir o hyd a byddwn yn dechrau ac yn gorffen ym maes parcio'r Ymddiriedolaeth.

Bydd ein llwybr yn bennaf yn dilyn y llwybr glaswellt ar ben y clogwyn isel uwchben y lan môr cyn dychwelyd ar hyd lonydd tarmac tawel.

Gallai'r glaswellt fod ychydig yn llithrig ar ôl glaw felly mae esgidiau cerdded cryf yn hanfodol a chynghorir ichi wisgo dillad gwrth-ddŵr hefyd.

Byddwn yn ymgynnull yn y maes parcio tua 11:15yb ac yn dechrau ein taith gerdded am 11:30yb. Byddwn yn stopio am ginio ar y ffordd.

Mae toiledau ym Mhlas Cemlyn (Swyddfa'r Warden) y gallwn eu defnyddio ar ddechrau a diwedd y daith gerdded.

Dylem fod yn ôl yn y maes parcio ar gyfer y bws i'n casglu am 14:45yp ar gyfer ein taith yn ôl, gan ddychwelyd yn ôl i Fangor tua 15:45yp.

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn darparu bws i adael Bangor am 10:15yb gan godi rhai cerddwyr ym maes Parcio a Theithio, Llanfairpwll am 10:30yb.

A allwch roi gwybod i Bethan Sage Williams eich bod yn bwriadu ymuno â ni erbyn dydd Mercher, Mai 13 fan bellaf fel y gallwn drefnu'r cludiant angenrheidiol a pha un a fyddwch chi'n dod ar y bws neu'n dod o hyd i'ch ffordd eich hun.

Cod Post y Maes Parcio yn Cemlyn: LL67 0EA

Nodyn: Mae un o'n haelodau, Walter Richards, wedi trefnu noson o adloniant yng Nghlwb Pêl-droed Tref Caernarfon ar nos Wener, Mehefin 27 i ddechrau am 7yh.

Mae tocynnau'n £3 yr un a gellir eu prynu ar y daith gerdded neu gan y Gymdeithas. Bydd yr holl elw yn mynd tuag at gost cynnal ein clwb cerdded.

Gobeithio y bydd llawer ohonoch yn dod i gefnogi'r noson.