Taith hyfryd ger Llyn Cefni a Bodffordd, Ynys Môn
Daeth 23 o gerddwyr a chwech ci tywys ar ein taith ddiweddaraf braf yn ardal Bodffordd, Ynys Môn.
Roedd yr haul yn gwenu’n hyfryd a phawb mewn hwyliau da wrth inni deithio ar fws Dilwyn o Fangor fore Mercher, Mawrth 18fed, 2026.
Ar ôl tynnu llun o’r grŵp efo’i gilydd cyn dechrau’r daith, fe ddechreuon ni gerdded 3.6 milltir gan anelu ar hyd glannau Llyn Cefni.
Fe gerddon ni ar hyd llwybr cyhoeddus trwy'r goedwig ger y llyn sy’n cyflenwi ardaloedd eang o Fôn gan gynnwys Porthaethwy a Llanfairpwll.
Yna fe wnaethon ni anelu at Rhosmeirch cyn gorffen y daith yn Popty Pizza ger Oriel Môn, Llangefni.
Roedd y llwybr yn gadarn a llydan ond, ar adegau, roedd hefyd rhaid bod yn ofalus o’r ochrau serth.
Roedd y milltir a hanner olaf yn dilyn pafin ger ochor y ffordd trwy Rhosmeirch hyd at Oriel Môn.
Fe gafon ni groeso cynnes yn Popty Pizza lle wnaethon fwynhau ein cinio ar y byrddau yn yr awyr agored.
Roedd toiledau yno hefyd ar ddiwedd y daith.
Daeth y bws i’n casglu am 2 o'r gloch er mwyn dychwelyd i Fangor a phawb wedi mwynhau unwaith eto.
Bydd ein teithiau nesaf ychydig yn fwy heriol na’r rhai arferol.
Teithiau i ddilyn:
15.4.26 Cwm Penamnen, Dolwyddelan gyda Ioan Davies, warden Parc Cenedlaethol Eryri.
20.5.26 Gwarchodfa Natur Cemlyn (Arfordir Gogledd Ynys Môn) gyda Ben Stammers o'r Ymddiriedolaeth Natur.
- grwp o boneddigesau ar pafin gyda ei cwn tywys ac arweinyddion
- pobl yn cerdded ar y llwybr cerdded gyda ei cwn tywys ac arweinyddion
- pobl yn cerdded ar llwybyr wrth ymyl afon
- pobl yn cerdded ar y llwybyr wrth ymyl coedwig
- pobl yn cerdded ar llwybyr baw
- grwp o pobl cyn ddechrau ar ei taith
- grwp o pobl gyda cwn tywys yn barrod am ei daith.







