Taith hyfryd i Llanddwyn a choedwig Niwbwrch
Daeth 22 o gerddwyr ar ein taith ddiweddaraf hyfryd i draeth Llanddwyn.
Ar ôl croesawu rhai wynebau newydd i’r grŵp, fe ddechreuon ni’r daith o faes parcio ychydig y tu allan i bentref Niwbwrch tuag at Malltraeth.
Cwningar Niwbwrch yw un o'r systemau twyni mwyaf a’r harddaf ym Mhrydain, ac ym 1955 Cwningar Niwbwrch ac Ynys Llanddwyn oedd y mannau arfordirol cyntaf yng Nghymru i gael eu dynodi’n Warchodfa Natur Genedlaethol.
Fe ddilynon ni’r trac coedwig i lawr i'r traeth oedd ychydig dros ddwy filltir ar wyneb cadarn.
Roedd yr haul yn tywynnu’n ysbeidiol wrth inni sgwrsio’n braf tan inni gyrraedd y traeth i gael ginio.
Ar ôl cinio fe wnaethon ni ddychwelyd yr un ffordd gan synnu at y goedwig coed Corsica a blanwyd i sefydlu’r twyni tywod.
Fe wnaethon ni wedyn gerdded ar hyd Pen Cob sy'n cysylltu Niwbwrch a Malltraeth ac arogli blodau’r grug gan orffen y daith yn y Joiners Arms am ddiod a defnyddio’r toiledau.
Roedd y daith hon ychydig yn hirach na'r arfer, sef tua 7 milltir.
Roedd y bws yn ein disgwyl yn y dafarn ar gyfer dychwelyd i Fangor.
Mae pawb nawr yn edrych ymlaen at y daith nesaf fydd yn cael ei chynnal ar y trydydd dydd Mercher o’r mis.