A- A A+

English

Taith Llyn Crafnant - Clwb Cerdded Eryri

Clwb Cerdded Eryri

'Rydym wedi trefnu taith o amgylch Llyn Crafnant.  Taith o 3.5 milltir o hyd sydd mewn un o leoliadau harddaf Eryri. Byddwn yn cerdded ar lwybr cymhedrol wastad gyda rhai manau gwlyb os bydd wedi glawio, gyda dringfa o 150 troedfedd pen pellaf i'r llyn lle byddwn yn cael seibiant am ginio.

Mae'r Gymdeithas wedi trefnu bws a fydd yn gadael Bangor am 10:15. Bydd hefyd yn casglu ger cae peldroed Bethesda am 10:30 ('rydym wedi cael caniatad i barcio yn maes parcio y clwb os bydd hyn yn hawdd i rai ohonoch).

Byddwn yn cyrraedd Crafnant am o ddeutu 11:15 ac yn cychwyn cerdded am 11:30.  Mae toiledau ar gael yn y maes parcio. Bydd y bws yn gadael Crafnant am 2:00 ac yn cyrraedd Fangor am 3:00.
Awgymwn eich bod yn gwisgo esgidau addas a dewch a dillad glaw rhag ofn, peidiwch ac anghofio dod a bocs bwyd gyda chi hefyd.

Byddwn yn gohirio'r daith os bydd y tywydd yn ddrwg  - Os oes angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost a neges text erbyn 8.am ar ddiwrnod y daith gerdded . Wrth ymateb i'r e-bost yma a allech chi gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon text os gwelwch yn dda.

Os ydych am ymuno ar daith, buaswch mor garedig a ymateb yr ebost bethan@nwsb.org.uk  neu ffonio’r Gymdeithas.

Yn eich ateb, allech chi gynnwys y wybodaeth ganlynol

  1. A fyddwch yn ymuno â ni ar y daith gerdded?

  2. Oes na rywun yn dod gyda chi?

  3. Oes angen gwirfoddolwr i gyd-fynd â chi?

  4. Rhif ffôn symudol.

  5. Oes angen cludiant arnoch o'r Gymdeithas ?

Edrychwn ymlaen am eich cwmni.

Peter Evison a  Mark Roberts. Bethan Sage Williams

Taith Llyn Crafnant, 15 Mawrth 2023

Taith tua 3.5 milltir o hyd, o amgylch y llyn uwchben Trefriw yn Nyfryn Conwy.