A- A A+

English

Taith Rhaeadr Fawr Aber


Cychwyn gwlyb i’n taith, ond erbyn i ni gyrraedd y rhaeadr fe arafodd y glaw. Ni ddaru hyn difetha dim, pawb i weld wedi mwynhau y daith.  Edrychwn ymlaen am eich cwmni mis nesaf.


Mis yma byddwn yn cerdded i un o safleoedd mwyaf poblogaidd Eryri, rhaeadr fawr Aber. Mae’n daith cymhedrol hawdd o 4 milltir o hyd o'r man lle bydd y bws yn ein gollwng.

Mae dau faes parcio, yr isaf ac uchaf, mae safleoedd parcio anabl i perchnogion bathodyn parcio glas yn y ddau.

Rydym wedi trefnu bws i adael y Gymdeithas am 10.15.   I’r rhai sydd am wneud eich ffordd eich  hunain i Aber mae yno faes parcio talu ac arddangos  ar gychwyn ein llwybr i’r Rheadr (parcio am  ddim gyda bathodyn glas ond bydd tal o £5 i gerbydau heb fathodyn)

Ymglasgwn yn y maes parcio uchaf cyn cychwn ein dringfa graddol tua'r rhaeadr, taith dim mwy na 45 munud.

Wedi i ni gyrraedd y rhaeadr bydd amser i ni gael seibiant am ginio a sgwrs cyn cychwyn yn ôl i lawr am y pentref.

Dyma ychydig o wybodaeth ar beth fyddwch angen ei baratoi cyn y daith:

  • Ymglasgwn yn y maes parcio uchaf

  • Bydd y daith yn cychwyn am 11am ac yn cymeryd o ddeutu 3 awr.

  • Bydd y bws yn ein casglu am 2.y.p ar gyfer y daith yn ôl i Fangor.

 Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd drwg  - Os oes angen i ni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi trwy e-bost a neges text erbyn 8.am ar ddiwrnod y daith gerdded . Wrth ymateb i'r e-bost yma a allech chi gynnwys rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon text os gwelwch yn dda.

Byddwch angen:

Dillad addas ar gyfer y tywydd gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad glaw a bocs bwyd.

Os ydych am ymuno ar daith, a fuasech mor garedig a ymateb i’r ebost neu ffonio’r Gymdeithas.

Yn eich ateb, allech chi gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  1. A fyddwch yn ymuno â ni ar y daith gerdded?  

  2. Oes yna rywun yn dod gyda chi gyda chi?

  3. Oes angen gwirfoddolwr i gyd-fynd â chi?

  4. Rhif ffôn symudol.

  5. Oes angen cludiant arnoch o'r Gymdeithas ?

Diolch