TAITH Y DDWY BONT
Lluniau o'n taith gerdded ddiweddaraf o Bont Britannia i Bont Menai, gan aros yn Nhreborth am ginio.
Hyfryd oedd gweld cymaint o gerddwyr.
Diolch i bawb a ddaeth yn ystod y tywydd gwlyb.
Yn anffodus oherwydd y tywydd bu'n rhaid gohirio ein taith gerdded olaf (18/01/23) ond rydym wedi penderfynu gwneud yr un llwybr o bont i bont wythnos nesaf 25/01/23. Os gwelwch yn dda a allwch roi gwybod i mi os ydych ar gael ar gyfer y daith hefyd o ble y byddwch yn cychwyn o’r swyddfa neu y bont.
Mis yma byddwn yn ymweld ar ddwy bont, Pont Menai a Phont Britannia, taith cymhedrol hawdd o gwmpas 4 milltir o hyd. Bydd y daith yn cychwyn ochr Fangor i Bont Menai am 11.00y.b lle byddwn yn cerdded ar ran o lwybr arfordir hyd at Pont Britannia. Byddwn wedyn yn gwneud ein ffordd yn ol i Pont Menai lee byddwn yn croesi drosoddy i Ynys Mon ac yn gwneud ein ffordd i Ynys Llandysilio, yma mae'r eglwys a credwyd ei bod wedi ei hadeiladu o gwmpas 1400.
Ar yr ynys, ymunwn a'r 'Belgium Promenade' lle cawn seibiant am ginio, bydd meinciau yma lle cawn eistedd i fwyta. Ar ol seibiant byr, fe nawn ein ffordd ar hyd y 'Belgium Promenade' i gyffuniau Porthaethwy, lle cerddwn a amgylch y tref, gwneud ein fford yn ol i'r bont lee byddwn yn croesi yn ol i’n man dechrau.
Dyma ychydig o wybodaeth ar beth fyddwch angen ei baratoi cyn y daith:
-
Byddwn yn cyfarfod ochr Treborth i bont Menai
-
Bydd y daith yn cychwyn am 11am ac yn cymeryd o ddeutu 3 awr
-
Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd mawr - tywydd mawr.
Byddwch angen:
Dillad addas ar gyfer y tywydd gan gynnwys esgidiau cerdded, dillad glaw a bocs bwyd
Amser bws -
Os byddwch yn gurry, mae manau parcio iw gael rhwng Pont Menai a'r gerddi Botaneg.
Bws o Fangor 24A o Orsaf C 10.20 yn y’r Antelope erbyn 10.36 y.b
Neu
Bws X4 o Orsaf C am 10.40 y.b yn yr Antelope erbyn 10.56 y.b
Os ydych yn trafeilio o gyfeiriad Ynys Mon ac angen rhywun eich tywys, gallwn drefnu eich cyfarfod ochr Porthaethwy i'r bont ac eich tywys i man dechrau'r daith. Gallwch adael i Bethan neu fi wybod os chi angen cymorth.
E-bost: mark.roberts938@nbtinternet.com