A- A A+

English

Trawsnewid ein canolfan adnoddau gyda chôt o baent

Mae canolfan adnoddau a swyddfeydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru wedi cael eu trawsnewid ar ôl cael eu paentio yn ein lliwiau corfforaethol.

Mae’r ganolfan ar 325, Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd yn fangre pwysig i bobl sydd â nam golwg ac yn cynnig arddangosfa o’r offer diweddaraf ynghyd â’r wybodaeth angenrheidiol.

Daw nifer o bobl yma i’r ganolfan unai i gael gwybod pa adnoddau sydd ar gael neu i dderbyn gwybodaeth a chymorth gan swyddogion y Gymdeithas sy’n arbenigwyr yn eu maes.

Daw nifer o bobl yma wedi iddyn nhw gael eu cofrestru eu bod gyda nam golwg ac mae croeso i unrhyw un sy’n pryderu am eu sefyllfa bersonol.

Caewyd y ganolfan yn rhannol yr wythnos ddiwethaf er mwyn i baentwyr gael rhwydd hynt i baentio’r llawr gwaelod sy’n cynnwys y ganolfan adnodau a nifer o swyddfeydd ac ystafelloedd cyfarfod.

Y paentiwr oedd Martin Jones o Lanfairpwll, Ynys Môn.

Dywedodd prif weithredwr y Gymdeithas, Steven Thomas: “Roedden ni eisiau rhoi gwedd newydd a ffres i’r dderbynfa a’r ganolfan adnoddau yn arbennig.

“Fe benderfynon ni ddewis y lliwiau gwyrdd a’r llwyd golosg i’r roi ar y waliau gan mai dyna yw ein lliwiau corfforaethol ni.

“Mae pawb o’r farn fod ein swyddfeydd yn edrych yn llawer mwy modern ar ôl cael paentio. Fe fydda ni nawr yn ailwampio ein hadnoddau i ddangos yr offer diweddaraf fel bod pawb yn medru cael gwell syniad o beth sydd ar gael fel cymorth iddyn nhw.

“Hoffwn ddiolch i Martin am ei waith gofalus yn paentio’r llawr gwaelod ac rydym yn edrych ymlaen at dderbyn rhagor o bobl sydd â nam golwg i’n canolfan.”

Os ydych chi yn bwriadu ymweld â’n canolfan, mae croeso ichi ffonio 01248 353604 neu anfon at admin@nwsb.org.uk neu alw mewn unrhyw bryd rhwng 9-5, Llun-Iau a 9-4.30yp ddyddiau Gwener.