Tri Diwrnod Agored yn llwyddiant mawr
Daeth nifer dda o bobl yn byw gyda nam golwg i dri Diwrnod Agored a drefnwyd gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru.
Cafodd y Dyddiau Agored eu cynnal yn Neuadd Pendre, Tywyn, Plas Heli, Pwllheli a’r Llew Gwyn, Bala ddydd Mercher, Iau a Gwener yr wythnos ddiwethaf – Mai 28,29 a 30.
Roedd y digwyddiadau yn gyfle i bobl ddall a phobl sy’n byw gyda nam golwg gyfarfod staff y Gymdeithas i gael cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth.
Roedd yna hefyd arddangosfeydd o offer arbenigol gyda Jason Shaw o gwmni Vision Aid i ddangos y gwahanol fathau o dechnoleg newydd sydd ar gael.
Dros y blynyddoedd diwethaf ryda ni wedi cynnal Dyddiau Agored ym Mhorthmadog, Cymru, Llandudno, Portmeirion a’r Trallwng.
Dywedodd swyddog ymgysylltu’r Gymdeithas, Bethan Williams: “Rydym yma i gefnogi ac i rymuso unigolion sy’n byw gyda nam golwg, gan roi mynediad iddynt i dechnoleg newydd a gwasanaethau hanfodol.
“Bwriad y digwyddiadau oedd cyrraedd y rhai allai ei chael hi’n anodd teithio i’n canolfan adnoddau ym Mangor, gan sicrhau bod pawb yn cael cyfle i archwilio offer ac adnoddau arloesol sydd wedi’u teilwra i’w hanghenion.”
Roedd ein swyddogion adfer, Wendy Price ac Annest Jeffery, yn bresennol i gynnig arweiniad a chefnogaeth a hefyd Nick Thomas, ein swyddog datblygu.
Meddai Bethan: “Daeth Jason Shaw o VisionAid i arddangos y datblygiadau diweddaraf mewn technoleg gynorthwyol, gan ddangos offer uwch-dechnoleg sy’n gallu hybu annibyniaeth i’r rhai â nam ar eu golwg. O chwyddwyr i ddyfeisiau darllen uwch-dechnoleg, cafodd y mynychwyr gyfle i weld drostynt eu hunain sut y gallai’r dyfeisiadau hyn drawsnewid eu bywydau bob dydd.
“Roedd y Dyddiau Agored hefyd yn cynnig lle croesawgar i unigolion gwrdd â’i gilydd, rhannu profiadau, a derbyn cymorth personol mewn amgylchedd hamddenol. Roedd yn gyfle gwych i ymgysylltu ag arbenigwyr, gofyn cwestiynau, ac archwilio opsiynau na fyddent o bosib yn hygyrch fel arall.
Ychwanegodd: “Trwy ddod â’r gwasanaethau hyn yn uniongyrchol i gymunedau lleol, ail-gadarnhawyd ymrwymiad y Gymdeithas i gynhwysiant a hygyrchedd, gan sicrhau bod y rhai sy’n byw nam golwg yn cael cefnogaeth waeth ble maen nhw.
“Roedd llwyddiant y tri diwrnod yn Tywyn, Pwllheli, a Bala yn tanlinellu pwysigrwydd ymdrechion allgymorth a’r effaith gadarnhaol y gallant ei chael ar unigolion sy’n byw bywyd gyda nam golwg.”
Lluniau
- Dyn yn sefyll yn dangos dyfais symudol i ddyn efo gwallt gwyn a cap, yn eistedd i lawr
- Jason Shaw o Vision Aid yn dangos dyfais symudol i ddynes yn gwisgo sbectol haul, yn gwenu
- Bwrdd efo gwahanol ddyfeisiau fel dwy oriawr, teclyn teledu, ffon symudol, liquid level indicator, visors lliw
- Jason Shaw o Vision Aid o flaen ei stondin, yn siarad gyda dwy ddynes
- Dyn gyda cansen wen yn siarad i ddynes wrth stondin Macular Society
- Bwrdd efo gwahanol ddyfeisiau fel teclyn teledu, teleffon, matiau non-slip, chwyddwydr
- Jason Shaw o Vision Aid o flaen ei stondin, yn siarad gyda dwy ddynes
- Bwrdd efo gwahanol ddyfeisiau fel chwyddwydr, guidance aid, cansen wen, ffon gerdded