Tywydd braf a thaith bleserus o amgylch Y Felinheli
Daeth 20 o gerddwyr ar ein taith gerdded gyntaf o’r flwyddyn newydd a hynny o gwmpas Y Felinheli, Gwynedd.
Roedd y daith gylchol hon yn gyfle gwych i bawb fwynhau cwmnïaeth ac ystwytho’r corff a hynny yn yr awyr iach tra’n mwynhau golygfeydd godidog o’r Afon Menai.
Mark ac Elaine Roberts oedd arweinwyr y daith bedair milltir, tair awr a hanner o hyd.
Fe wnaethon ni ymgynnull wrth ymyl tafarn a bwyty’r Garddfôn.
Roedd y golygfeydd yn odidog gyda’r haul yn gwenu uwchben Y Felinheli.
Fe wnaethon ni gerdded i fyny’r allt allan o’r pentref ac ar hyd y Lôn Las – y llwybr cerdded a beicio sy’n cysylltu’r pentref gyda Chaernarfon.
Fe gawsom ni ein cinio ym Mhlas Menai lle’r oedd byrddau picnic ar gael yn ogystal bwyd, diodydd a thoiledau.
Fe anelon ni wedyn yn ôl tuag at bentre’r Felinheli gan gerdded i fyny’r llwybr at Y Wern, uwchben.
Fe gerddon ni wedyn yn ôl at y man cychwyn gyda phawb nawr yn edrych ymlaen at y daith nesaf fis Chwefror.
Mae’r teithiau, fel arfer, yn cael eu cynnal ar y trydydd dydd Mercher ymhob mis. Rydym yn trefnu teithiau ble mae yna doiledau ar ganol a diwedd y daith.
Os ydych eisiau rhagor o fanylion, ffoniwch Bethan Sage Williams yn swyddfa Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk
- cerddwyr ar y llwybr
- cerddwyr ar lwybr wedi ei amgylchynu gan goed
- golygfa o'r dŵr
- cerddwyr yn sefyll wrth glan y mor
- grŵp o gerddwyr yn y coedwig
- y grŵp yn cerdded ar y palmant gyda chŵn tywys
- y grŵp yn cael picnic
- 3 cerddwr yn cerdded tra'n cysylltu breichiau
- y grŵp o gerddwyr yn sefyll wrth ymyl glan y dŵr