Y nofwraig Ela’n “brysur” ers ennill medal arian yn Glasgow!
Mae Ela Letton-Jones wedi bod yn “ofnadwy o brysur” ers iddi ennill medal gyntaf Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad Glasgow ar ôl gorffen yn ail yn y 100m dull rhydd S13.
Enillodd y para-nofwraig 19 oed o’r Felinheli, Gwynedd, fedal arian gan gwblhau’r ras mewn amser o un funud a 4.30 eiliad – gan dorri'r record Gymreig a’i amser gorau personol.
Dywedodd Ela, sydd â chyflwr albinism sy'n effeithio ar ei golwg, wrth BBC Cymru: “Oni yn ofnadwy o hapus efo huna – PB a medal arian. Fedrai ddim rili gofyn am fwy na hynna.
Ychwanegodd: “Dwi’n ofnadwy o falch ohonof fy hun a dwi’n ddiolchgar i’r holl bobl sy ‘di helpu fi yn ystod y siwrne.”
Enillodd Ela fedal arian ym Mhencampwriaethau Nofio Para’r Byd yn Singapore fis Medi yn cynrychioli Prydain.
Ei gobaith yw cyrraedd y Gemau Paralympaidd yn Los Angeles yn 2028.
Prif lun: Team Wales



