Ydych chi yn meddwl mynd ar wyliau?
Mae’r comedïwr dall Chris McCausland wedi rhannu ei farn o mewn cyfres deledu - The Wonders of the World I Can't See - a ddarlledwyd yn 2023.
Mae’r gyfres dal ar gael i’w ffrydio ar Channel 4, Netflix ac Apple TV.
Yn y rhaglenni mae Chris yn holi be ydi’r pwrpas iddo fynd ar wyliau ac yntau’n ddall.
Mae’n ymweld â’r Parthenon yn Athen gyda Harry Hill; y Colosseum yn Rhufain gyda Tom Allen; nofio yn y Môr Coch ag ymweld â Petra yng Ngwlad yr Iorddonen gyda Guz Kahn a theithio ar gwch ger Rhaeadr Niagra gyda Liza Tarbuck.
Yn Rhufain mae Chris yn holi Tom: “Be’ di’r pwynt inni ddod yma? Allwn ni fod wedi eistedd ar y soffa adra? Gallwn fod wedi archebu pizza!”
Mae'r rhaglen yn gwneud i'r gwyliwr feddwl am golli golwg.
Mae’n dangos rhai o’r camgymeriadau cyffredin y mae pobl yn eu gwneud wrth arwain a disgrifio pethau ac yn chwalu rhai o’r mythau ynghylch colli golwg.
Yn y bennod gyntaf cafodd gwylwyr werthfawrogiad o faint o gyfathrebu di-eiriau rydyn ni'n ei ddefnyddio bob dydd y gellir ei golli'n hawdd.
Roedd Harry Hill yn symud ei fraich i ddisgrifio symudiad dolffin ac, wrth gwrs, tynnodd Chris ei sylw at y ffaith na allai weld yr ystumiau llaw.
Mae'r gyfres wir yn gwneud i bobl feddwl am sut i gyfathrebu'n effeithiol.
Nawr mae Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru eisiau holi ein haelodau os ydi nam golwg yn rhwystr i fynd ar wyliau?
Rydym ni yn awyddus i rannu eich cyngor chi ynglŷn â be i’w wneud a be i beidio â'i wneud wrth baratoi i fynd ar wyliau ac yn ystod eich gwyliau.
Hefyd, eich hoff wyliau, y llefydd gorau i fynd; eich gwyliau gwaethaf a’r llefydd i’w hosgoi.
Gallai’r gwyliau fod yng Nghymru, Ewrop neu rywle yn y byd.
Fe fydda ni wrth ein boddau yn clywed gennych.
Anfonwch eich fideos, lluniau a geiriau yn rhannu eich profiadau a’ch cyngor atom drwy ebost neu WeTransfer at hywel@nwsb.org.uk.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych.