Ydych chi’n defnyddio bysiau Arriva?
Ydych chi’n defnyddio bysiau Arriva yng Nghaernarfon, Bangor a Llandudno neu’r ardaloedd cyfagos?
Mae’r Royal National Institute for the Blind (RNIB) yn chwilio am bobl ddall neu rannol ddall i ymuno â sesiwn hamddenol i rannu profiadau ac i helpu i wneud teithio ar fysiau yn well i bawb.
Mae’n gyfle da i leisio’ch profiadau a helpu Arriva ddeall sut i wneud eu gwasanaethau’n fwy hygyrch ledled Gogledd Cymru.
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal rhwng 10yb-1yp yn depot bysiau Arriva neu o bosib yn yr orsaf bysiau ym Mangor ar ddyddiad i’w gadarnhau yn ystod mis Ebrill.
Dyma beth fydd yn digwydd yn y sesiwn:
- Sgwrs gyda staff Arriva am y profiad o deithio ar y bws i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall.
- Cyfle i’r gyrrwyr roi cynnig ar wisgo penwisg rhithwir sy’n dangos sut mae gwahanol gyflyrau llygaid yn effeithio ar brofiad teithio.
- Taith fer ar y bws i weld sut mae’r gyrrwyr yn siarad ac yn helpu teithwyr wrth fynd o gwmpas.
Gadewch i ni yng Nghymdeithas Deillion Gogledd Cymru wybod cyn gynted a phosib os hoffech ymuno â’r sesiwn drwy anfon at bethan@nwsb.org.uk neu ffonio 01248 353604

