Ymunwch gyda ni ar ein teithiau cerdded!
Os ydych yn byw gyda nam golwg ac eisiau mynd am dro yng nghwmni pobl eraill – mae croeso ichi ymuno gyda’n clwb cerdded ni.
Sefydlwyd Clwb cerdded Eryri yn ôl yn 2007 gan Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru er mwyn cynnig cyfle i bobl sy’n byw gyda nam golwg fynd am dro.
Isod mae fideo byr o un o drefnwyr y teithiau, Mark Roberts, gyda’i gi tywys Forrest, yn estyn gwahoddiad i aelodau newydd ymuno gyda ni.
Mae yna nifer dda ohonom yn mynd ar y teithiau cerdded a gynhelir ar y trydydd dydd Mercher o bob mis.
Mae nifer o’r cerddwyr yn ddall neu’n rhannol ddall.
Mae rhai gyda cŵn tywys neu mae gennym ni ddigonedd o dywyswyr profiadol a all gynnig rhoi cymorth i unrhyw un a bod yn gwmni ar hyd y daith.
Mae’r elfen o gymdeithasu gyda’n gilydd yn brofiad sy’n cael ei werthfawrogi gan bawb ynghyd â’r ffaith ein bod yn cael troedio llwybrau newydd a hynny yn yr awyr iach.
Rydym yn aros am ginio ar bob taith ac yn ceisio trefnu bod toiledau ar gael hefyd.
Yn ychwanegol, rydym yn trefnu cludiant i ddechrau pob taith o’n swyddfa ym Mangor ac yn medru casglu pawb ar ddiwedd pob taith cyn dychwelyd i Fangor.
Rydym hefyd wastad yn chwilio am lwybrau newydd i’w cymeryd ac yn croesawu unrhyw gynigion i ddewis un o’ch hoff lwybrau neu deithiau chi.
Mae ein teithiau ni fel arfer yn rhyw 4 milltir o hyd.
Mae gennym ni hefyd gyfrif Facebook arbennig sef Clwb cerdded Eryri Walking club gyda digonedd o wyhbodaeth ar gael am deithiau diweddar.
Os hoffech chi ymuno gyda ni, gyrrwch air neu ffoniwch ein swyddog ymgysylltu Bethan Sage Williams ar 01248 353604 neu bethan@nwsb.org.uk
- Llun o Mark Roberts, arweinydd teithiau cerdded Clwb cerdded Eryri, yr ail o’r dde gyda’i gi Forrest, ac aelodau eraill y clwb ar ddechrau ein taith i Llyn Elsi, Betws-y-Coed y llynedd.
Llun o Mark Roberts, arweinydd teithiau cerdded Clwb cerdded Eryri, yr ail o’r dde gyda’i gi Forrest, ac aelodau eraill y clwb ar ddechrau ein taith i Llyn Elsi, Betws-y-Coed y llynedd.