Ymwelaid i Depot Arriva
Gwahoddwyd Dan Owens, ei gi tywys Robbie a Bethan o Gymdeithas Deillion Gogledd Cymru i ddepo Arriva ym Mangor dydd Mercher, 1af o Chwefror i weld eu bysus newydd am y tro cyntaf. Mae Dan yn trafeilio ar fysus yn aml ar draws Gogledd Cymru a hoffai ddweud wrthych am ei brofiad ar y bws newydd heddiw wrth iddo deithio o amgylch Bangor.
“Mae bysiau newydd Arriva yn llawer iawn gwell na’r hen rai. Mae'r reid yn llawer mwy esmwyth na’r hen fysus a oedd â thueddiad i fod yn eithaf swnllyd a sigledig.
Mae yna hysbysiadau clywedol a gweledol o ble rydych chi ar y daith.
Fel unigolyn â nam golwg mae'r hysbysiadau clywedol o fudd i'm helpu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Mae'r seddi'n fwy cyfforddus ac mae cynllun lliw mewnol y bysiau yn fwy disglair a chyferbyniad gwell.
Mae’r bysiau yn welliant aruthrol o’r hen genhedlaeth a fydd yn rhoi mwy o hyder, cysur ac ymarferoldeb i bawb i ddefnyddio’r gwasanaeth.”
Hoffwn ddiolch i Gary, Rheolwr depo Bangor a'i staff cyfeillgar am ganiatáu i ni fod yn rhan o lansiad bws newydd heddiw.