Yr haul yn gwenu ar daith gylchol fendigedig o Rhyd Ddu i Llyn Y Gader
Daeth 27 o gerddwyr a thri ci tywys ar ein taith ddiweddaraf – un cylchol o Rhyd-Ddu i Llyn y Gader.
Roedd hyd y daith yn 6.5km (4 milltir) ar arwyneb gadarn yn bennaf.
Dechreuon ni’r daith wrth orsaf reilffordd Rhyd-Ddu ac anelu i fyny ar hyd y llwybr i gyfeiriad yr Wyddfa.
Roedd y tymheredd yn tua 12 gradd i ddechrau gyda’r cymylau gweddol isel yn rhwystro’r haul rhag tywynnu.
Fe gawsom ein cinio wrth eistedd ar y creigiau ger yr arwydd carreg yn dangos y llwybr o’r Rhyd Ddu tuag at yr Wyddfa.
Yna fe wnaethom ddechrau ein disgynfa yn ôl tuag at y brif ffordd yr A4085 rhwng Waunfawr a Beddgelert.
Roedd y llwybr yn dangos olion erydu mewn rhannau gyd dwr y mynydd wedi ei danseilio.
Fe wnaethom gerdded i lawr o’r mynydd a chyrraedd y ffordd rhwng Waunfawr a Beddgelert gan ei chroesi yn ogystal â llinell Rheilffordd Eryri i gyrraedd llwybr Lôn Gwyrfai.
Fe’n cynheswyd gan belydrau’r haul wrth inni gerdded o amgylch Llyn Y Gader a synnu at yr adlewyrchiadau ohono.
Roedd olion chwarel lechi’r Gadair Wyllt i’w gweld a hysbysfyrddau yn dangos yr adar a’r hwyaid sy’n ymweld a’r llyn o bryd i’w gilydd.
Fe ddychwelon ni ar hyd y Sarn Gul tuag at y maes parcio lle cychwynodd y daith gyda phawb wedi mwynhau’n fawr iawn ac yn edrych ymlaen at yr un nesaf.






