A- A A+

English

Clwb Cerdded Eryri - Capel Curig i Fwthyn Ogwen ar 17 Gorffennaf - Wedi ganslo

Hysbysiad o’n taith gerdded nesaf Dydd Mercher, Gorffennaf 17, 2024

Capel Curig i Fwthyn Ogwen

Diweddariad: Mae'r trip Capel Curig wedi ei ganslo. Bydd y trip yn mynd ymlaen i Llyn Elsi, Betws-y-Coed yn lle.

Y mis yma byddwn yn cerdded llwybr yr ydym wedi'i gwblhau o'r blaen, taith gerdded a fwynhawyd yn arw gan y grŵp a fynegodd awydd i ail-droedio’r llwybr o Gapel Curig i Fwthyn Ogwen.

Bydd ein taith yn dilyn y Llwybr Llechi, pellter o ychydig dros 5 milltir.  Mae'r llwybr yn dilyn Afon Llugwy a'r A5 gan fynd â ni drwy Nant y Benglog sef y dyffryn cul rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen.

Byddwn yn bwyta ein cinio yn Fferm Gwern Gof Isaf lle mae ‘na fyrddau picnic a thoiledau. (Mae'r ffermwr wedi rhoi caniatâd i ni eu defnyddio.)

Efallai y bydd rhai darnau mwdlyd ar y daith, yn dibynnu ar faint o law sydd wedi bod, felly mae angen ichi gofio gwisgo esgidiau addas.

Mae toiledau ar ddechrau'r daith ac ym Mwthyn Ogwen ar y diwedd.

Bydd Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru yn darparu bws a fydd yn gadael swyddfa’r Gymdeithas ym Mangor am 10:30yb. Bydd y bws hefyd yn ein codi ym Mwthyn Ogwen am 3:15yp er mwyn inni ddychwelyd i gyrraedd Bangor tua 3:45yp.  

Bydd y bws hefyd yn codi cerddwyr ym Methesda gyferbyn â'r cae pêl-droed am 10:45yb.

Rydym bob amser yn chwilio am deithiau cerdded newydd i’w troedio, felly os oes gennych unrhyw syniadau am eich hoff daith bersonol efallai, rhowch wybod inni. 

Byddwn yn gohirio'r daith os bydd tywydd gwael. Os bydd angen inni wneud penderfyniad i ganslo, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost a thestun am 6yh ar y noson cyn y daith. Wrth ymateb i'r e-bost hoffwn petaech yn cynnwys eich rhif ffôn symudol lle gallwn anfon negeseuon os gwelwch yn dda.

Mae'n bwysig, os ydych yn bwriadu ymuno â ni, eich bod yn rhoi gwybod i Bethan cyn gynted â phosibl er mwyn i ni drefnu'r bws priodol.  

A allwch chi, os gwelwch yn dda, ddychwelyd eich atebion i’r cwestiynau canlynol cyn gynted â phosib.

1. A ydych chi yn ymuno â ni ar y daith?
2. A oes unrhyw un arall yn dod gyda chi?
3. A oes angen gwirfoddolwr tywysydd golwg arnoch?
4. Beth yw eich rhif ffôn symudol?
5. Lle byddwch chi'n cwrdd â'r grŵp?

  • Llun yn dangos dechrau’r daith gerdded o Gapel Curig i Fwthyn Ogwen